Disgrifiad (Ad-daliadau)
Bydd hwn yn dangos sut mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi gwneud yr ad-daliad.
Ad-daliad drwy Siec - Dyma pan fydd CThEM wedi anfon archeb talu.
Ad-daliad Banc - Dyma pan fydd CThEM wedi gwneud yr ad-daliad yn uniongyrchol mewn i gyfrif banc naill ai drwy Bacs (Bankers Automated Clearing Service) neu CHAPS (Clearing House Automated Payments System).