Cyllid & Thollau EM

I'w dychwelyd erbyn

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i Gyllid a Thollau EM (CThEM) dderbyn eich ffurflen dreth wedi'i llenwi'n llawn erbyn 31 Ionawr yn dilyn y flwyddyn dreth a ddaw i ben y mae'n perthyn iddi. Er enghraifft: Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn dreth sy'n dod i ben 5 Ebrill 2005 yw 31 Ionawr 2006. Pan fod CThEM wedi anfon eich ffurflen dreth ar ôl 31 Hydref yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y mae'n perthyn iddi, caiff y dyddiad dychwelyd ei ymestyn gan dri mis o ddyddiad anfon y ffurflen dreth. Er enghraifft: Anfonir y ffurflen dreth ar 12 Rhagfyr 2005, felly'r dyddiad cau yw 12 Mawrth 2006. Os nad yw CThEM wedi derbyn y ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol, ac nid yw'r dyddiad cau wedi mynd heibio eto, dangosir neges yn cyfri'r dyddiau i lawr fel a ganlyn, 'Mae xx o ddyddiau'n weddill cyn bod yn rhaid cyflwyno eich ffurflen dreth' (pan mai xx yw nifer y dyddiau). Ar y dyddiad cau ar gyfer eich ffurflen dreth, y neges fydd 'Heddiw yw'r dd mm bbbb, mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch ffurflen dreth heddiw' (pan mai dd mm bbbb yw'r dyddiad cau). Os yw'r dyddiad cau wedi mynd heibio ac nid yw eich ffurflen dreth wedi ei derbyn, dangosir y neges ganlynol 'Ni dderbyniwyd eich ffurflen dreth mewn pryd'. Os na wnaeth CThEM anfon ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben a ddangosir, bydd hwn yn wag.