Cyllid & Thollau EM

Dim Hysbysiadau Cod

Mae'n bosib na allwch fwrw golwg ar eich Hysbysiadau Cod TWE os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn gymwys:

Os ydych yn asiant ac mae gennych gleient newydd, byddwch ond yn gallu bwrw golwg ar Hysbysiadau Cod TWE o'r dyddiad pan gawsoch eich awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient. Yr eithriad yw pan fod naill ai eich cleient neu ei (h)asiant blaenorol yn gofrestredig, neu wedi bod yn gofrestredig, ar gyfer y gwasanaeth Hunanasesiad ar-lein yn ei (h)enw ei hun ar adeg anfon yr Hysbysiad Cod TWE.

Os oes angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM.