1085 - Cyfeirnod TWE y Cyflogwr
Caiff cyfeirnod TWE y cyflogwr ei anfon gan CThEM pan fyddwch chi, neu eich cleient, wedi cofrestru ar gyfer TWE i Gyflogwyr. Mae'r cyfeirnod ar y llythyr NEP a anfonodd CThEM atoch pan wnaethoch gofrestru am y tro cyntaf fel cyflogwr. Defnyddiwch y cyfeirnod hwn os ydych yn ffonio'n llinell gymorth. Dylech hefyd ei roi ar unrhyw ffurflen neu lythyr a anfonwch i'ch swyddfa CThEM.
Cyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon
Mae'r llythyr hefyd yn cadarnhau eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy'n 13 cymeriad. Dylech ddefnyddio eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon pan fyddwch yn gwneud taliadau TWE, ac wrth gysylltu â'r Ganolfan Cyswllt Cymraeg.
Sylwer: Os nad ydych wedi cofrestru gyda CThEM fel cyflogwr eto, mae'n rhaid i chi wneud hyn cyn y gallwch ymrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein.
Os ydych yn cofrestru fel cyflogwr gan ddefnyddio gwasanaeth cofrestru treth ar-lein CThEM, cewch eich ymrestru'n awtomatig ar gyfer y gwasanaeth ar-lein ar yr un pryd.
Fodd bynnag, os ydych yn cofrestru gan ddefnyddio dull gwahanol, bydd yn rhaid i chi aros am eich cyfeirnod cyflogwr cyn i chi allu ymrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein – bydd yn rhaid i chi wneud hyn ar wahân.
Am wybodaeth bellach, gweler'Sut i gofrestru fel cyflogwr'.