Cyllid & Thollau EM

Budd-dal Plant Incwm Uchel 07 - Cyfanswm y Budd-dal Plant a gafwyd

Ar sail yr wybodaeth a nodwyd yn y blychau uchod, dangosir ffigur eich Budd-dal Plant yn y blwch hwn. Mae hwn wedi'i gyfrifo ar sail y lwfans Budd-dal Plant wythnosol am 6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021.

Plentyn hynaf neu unig blentyn o 6 Ebrill 2020 ymlaen £21.05.

Plant eraill o 6 Ebrill 2020 ymlaen £13.95.

Caiff Budd-dal Plant ei gyfrifo drwy luosi'r ffigur wythnosol â nifer yr wythnosau y gwnaethoch ei gael (neu'r flwyddyn dreth os gwnaethoch ei gael am y flwyddyn gyfan). Mae nifer yr wythnosau yn y flwyddyn dreth yn dibynnu ar sawl dydd Llun sydd yn y flwyddyn dreth.

Enghraifft 1
Mae gennych 2 blentyn ac rydych wedi cael Budd-dal Plant am y flwyddyn dreth gyfan.
£21.05 (y gyfradd ar gyfer y plentyn hynaf) + £13.95 (y gyfradd ar gyfer plant eraill) x 52 (sawl dydd Llun sydd yn y flwyddyn) = £1,820.

Enghraifft 2
Mae gennych 4 plentyn ac rydych wedi cael Budd-dal Plant am y flwyddyn gyfan.
£21.05 (y gyfradd ar gyfer y plentyn hynaf) + £13.95 (y gyfradd ar gyfer plant eraill) x 52 (sawl dydd Llun sydd yn y flwyddyn) = £3,270.80

Talgrynnwch y ffigur i lawr i £3,270.

Bydd y gwerth hwn yn cael ei gynnwys yn eich cyfrifiad treth pan fyddwn yn penderfynu ar y dreth i'w chodi arnoch.

Os nad ydych yn cytuno â'r ffigurau hyn, neu os ydych am nodi eich ffigurau eich hun, gallwch ddewis 'Na' i'r cwestiwn 'Os nad yw'r ffigur hwn yn gywir, dewiswch 'Na' a chewch gyfle i'w ddiwygio isod.'

Yna, gallwch nodi eich ffigur yn y blwch 'Cyfanswm y Budd-dal Plant yr oedd gennych chi a'ch partner yr hawl iddo am y flwyddyn hyd at 5 Ebrill 2021'.