HM Revenue & Customs

Meddalwedd cyflogres

Gellir defnyddio meddalwedd i reoli eich gweithgareddau cyflogres ac i baratoi a darparu eich Ffurflen Dreth Flynyddol Cyflogwr (ffurflenni 37 a P12) ar-lein.

Mae Cyllid & Thollau EM yn darparu gwasanaeth rhyngrwyd rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i weithredu’r Cynllun Didyniadau wedi ei Symleiddio ar-lein. Drwy ddarparu manylion cyflogeion a thl gros, mae'r t]l net a thaliadau o dreth a CYG yn cael ei weithio allan drosoch.

I ddefnyddio’r gwasanaeth yma mae rhaid yn gyntaf cofrestru am TWE ar-lein i gyflogwyr. Dewiswch TWE i gyflogwyr (PAYE for Employers) ar ein gwefan, logiwch i mewn a dewiswch y meddalwedd cyflogres C&ThEM rhad ac am ddim.