Cyllid & Thollau EM

Mae gennyf gyfrif - mewngofnodi

Mae Porth y Llywodraeth yn wasanaeth cofrestru canolog yn y DU. Drwy gofrestru gyda'r Porth byddwch yn gallu ymuno â nifer o wasanaethau rhyngrwyd y Llywodraeth.

Mae gan y Porth dros 100 o wasanaethau wedi'u galluogi o dros 50 o swyddfeydd. Os ydych wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein fel Hunanasesiad, gwirio eich hawl i bensiwn neu wneud cais am drwydded yrru dros dro, mae'n debygol eich bod wedi defnyddio'r Porth. Weithiau efallai na fyddwch yn ymwybodol hyd yn oed eich bod yn ei ddefnyddio - mae adrannau yn defnyddio brandiau eu hunain yn aml.

Mae'n bosib eich bod wedi derbyn cerdyn Porth y Llywodraeth gyda Dynodydd Defnyddiwr (ID), neu y rhoddwyd y Dynodydd Defnyddiwr i chi ar y sgrin, pan wnaethoch gofrestru i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Mae Dynodydd Defnyddiwr yn cynnwys 12 rhif a gynhyrchir ar hap, er enghraifft, 1234 5678 9123.

Sylwer:

Os gwnaethoch gofrestru ar ôl 20 Awst 2001 ond cyn 20 Medi 2008 bydd eich Dynodydd Defnyddiwr yn cynnwys 6 neu 12 nod a gynhyrchir ar hap; bydd yn gyfuniad o lythrennau a rhifau.

Os gwnaethoch gofrestru cyn 20 Awst 2001 bydd eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) yn cynnwys 4 llythyren wedi eu dilyn gan 4 rhif, er enghraifft, ABCD1234.

Byddwch wedi cofrestru fel unigolyn, sefydliad neu asiant. Os gwnaethoch gofrestru fel unigolyn bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair newydd arnoch cyn i chi allu cofrestru ar gyfer trethi busnes Cyllid a Thollau EM (CThEM). Mae hyn oherwydd bydd angen i chi gofrestru gyda'r Porth fel sefydliad er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn. Gallwch ganfod pa fath o gyfrif sydd gennych drwy fewngofnodi i wefan Porth y Llywodraeth.

Gallwch greu cyfrif sefydliad newydd drwy ddilyn y cysylltiad 'Create an account for me' ar y dudalen 'Register for HMRC taxes'.

Gall y Dynodydd Defnyddiwr a'r cyfrinair ar gyfer eich cyfrif unigolyn gael eu defnyddio o hyd i gyrchu'r gwasanaethau ar-lein yr ydych wedi ymrestru ar eu cyfer yn barod.