Pwy yw Ecospend?
Rydym yn defnyddio darparwr dibynnol, o’r enw Ecospend, er mwyn i chi allu talu heb orfod nodi manylion banc CThEF.
Hyd yn hyn mae dros 4 miliwn o bobl wedi talu CThEF drwy ddefnyddio’r dull hwn.
Mae Ecospend wedi bod yn un o ddarparwyr CThEF ers 2021, ac mae wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Mae’r dull hwn o dalu yn defnyddio Open Banking, sy’n ddiogel ac wedi’i reoleiddio gan y diwydiant. Er mwyn eich diogelu, mae’r un lefel o ddiogelwch ar waith ag sydd ar gael mewn banciau.
Mae hefyd yn ffordd gyflymach o dalu oherwydd bod manylion banc CThEF yn cael eu nodi ar eich rhan.
Ewch i wefan Ecospend i ddarganfod mwy neu i ddarllen ein hysbysiad o breifatrwydd o ran Open Banking.
Sut mae’n gweithio: cam wrth gam
1. Dewis eich banc
Ar ôl i chi benderfynu faint i’w dalu, dewiswch eich banc.
Yna, cewch eich trosglwyddo’n ddiogel i’ch banc.
2. Mewngofnodi i’ch cyfrif
Mewngofnodwch yn ôl yr arfer a dewiswch pa gyfrif i dalu ohono.
Ni all Ecospend na CThEF weld manylion eich cyfrif banc na’ch manylion mewngofnodi. Bydd y rhain yn aros yn breifat rhyngoch chi a’ch banc.
3. Cymeradwyo taliad
Yn olaf, cymeradwywch y taliad a bydd yn cael ei anfon at CThEF.