Ewch yn syth i‘r prif gynnwys
Yn ôl

Trefnu cynllun talu

Mae cynllun talu yn eich galluogi i dalu’ch taliadau treth fesul rhandaliad dros gyfnod o amser.

Mae eich cynllun yn cwmpasu’r dreth sydd arnoch ac, os yw’n berthnasol, y ddau daliad ymlaen llaw tuag at eich bil treth. Mae’r cynllun hefyd yn cwmpasu unrhyw gosbau neu daliadau yn erbyn eich cyfrif. Bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y swm a dalwch yn hwyr.

I fod yn gymwys i sefydlu cynllun talu ar-lein, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir amdanoch:

  • mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich Ffurflenni Treth yn gyfredol
  • mae arnoch £30,000 neu lai
  • nid oes gennych unrhyw ddyledion treth eraill
  • nid ydych wedi sefydlu cynlluniau talu eraill gyda CThEF

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn cyn pen 60 diwrnod i’r dyddiad cau ar gyfer talu.

Talwch nawr er mwyn talu llai o log neu ddim llog o gwbl

Bydd yn rhaid i chi dalu llog ar unrhyw daliadau a wneir ar ôl y dyddiad cau.

Talwch eich bil yn llawn er mwyn osgoi llog neu dalu llai ohono.

Cyn i chi ddechrau

Bwriad CThEF yw y bydd hwn yn gynllun talu un-tro er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i chi. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud eich taliadau mewn pryd. Os na fyddwch, mae’n bosibl y bydd CThEF yn gofyn i chi dalu’r swm cyfan sy’n weddill.

Er mwyn sefydlu’r cynllun talu, bydd angen i chi wybod beth yw’ch incwm a’ch gwariant misol, ac unrhyw gynilion neu fuddsoddiadau.