*yn dangos gwybodaeth sydd ei hangen
Dylech ond ddefnyddio'r ffurflen hon os ydych yn sefydliad Gwirfoddol, Cymunedol a Gwasanaethol enwebedig, ac rydych yn trosglwyddo cwsmeriaid ACY sydd angen derbyn galwad yn ôl oddi wrth Cyllid a Thollau EM (CThEM). Sylwer: I gael cymorth ychwanegol gallwch glicio ar yr eiconau help (?) sy'n ymddangos ger y cwestiynau. Rhowch gyfeiriad e-bost isod fel y gallwn anfon e-bost cydnabyddiaeth atoch ar gyfer eich cais. Am resymau diogelwch data, ni chaiff unrhyw wybodaeth cwsmer ei chynnwys mewn unrhyw e-bost ymateb.
Dylech ond ddefnyddio'r ffurflen hon os ydych yn sefydliad Gwirfoddol, Cymunedol a Gwasanaethol enwebedig, ac rydych yn trosglwyddo cwsmeriaid ACY sydd angen derbyn galwad yn ôl oddi wrth Cyllid a Thollau EM (CThEM).
Sylwer: I gael cymorth ychwanegol gallwch glicio ar yr eiconau help (?) sy'n ymddangos ger y cwestiynau.
Rhowch gyfeiriad e-bost isod fel y gallwn anfon e-bost cydnabyddiaeth atoch ar gyfer eich cais. Am resymau diogelwch data, ni chaiff unrhyw wybodaeth cwsmer ei chynnwys mewn unrhyw e-bost ymateb.
Sylwer: Am resymau diogelwch, ac er mwyn helpu CThEM i ddelio gyda'r ffurflen hon, mae'n rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau priodol yn yr adran hon. Nodwch enw llawn y cwsmer yn y meysydd isod. Rhowch DIM yn y blwch priodol os nad oes gan y cwsmer unrhyw enwau canol.
Sylwer: Am resymau diogelwch, ac er mwyn helpu CThEM i ddelio gyda'r ffurflen hon, mae'n rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau priodol yn yr adran hon.
Nodwch enw llawn y cwsmer yn y meysydd isod. Rhowch DIM yn y blwch priodol os nad oes gan y cwsmer unrhyw enwau canol.
Nodwch y rhif ffôn gall CThEM ddefnyddio i gysylltu â'r cwsmer yn ystod y dydd. Gall hwn fod yn rhif ffôn cartref, yn y gwaith, neu ffôn symudol. Rhaid i'r ffôn hwn beidio ag atal galwadau nad ydynt yn dangos y rhif ffôn sy'n galw.
Ticiwch y blwch isod i gadarnhau bod y cwsmer wedi rhoi caniatâd i negeseuon lleisbost cael eu gadael.
Ticiwch y blwch priodol isod os oes amser sydd yn well gan y cwsmer ein bod yn galw.
Nodwch isod, os yn briodol, unrhyw wybodaeth mae'n rhaid i CThEM ei hystyried wrth fynd i'r afael ag achos y cwsmer hwn. Er enghraifft, manylion anghenion cyfathrebu arbennig, neu broblem iechyd difrifol.
Nodwch enw'r sefydliad rydych yn ei gynrychioli ar gyfer eich cwsmer. Os anfonwyd yr achos atoch gan sefydliad gwahanol, gwnewch hyn yn glir, er enghraifft, 'Anfonwyd achos Cyngor ar Bopeth at CThEM gan Tax Aid'. Gall CThEM roi gwybod i'r cwsmer wedyn bydd unrhyw alwadau ffôn a wneir o ganlyniad i'w cysylltiad gyda'r sefydliad hwn.
Bydd CThEM yn cynnwys cyfeirnod eich cleient yn yr ymateb a anfonir atoch, ond am resymau diogelwch data ni fydd hwn yn cynnwys enw, rhif Yswiriant Gwladol nac unrhyw wybodaeth bersonol arall y cleient.
Ticiwch y blwch isod i gadarnhau bod y cwsmer wedi rhoi caniatâd i chi drosglwyddo'r wybodaeth hon i CThEM yn electronig, a bod y cwsmer yn fodlon bod yr holl ddata a gasglwyd ar yr adeg yr anfonwyd y ddogfen hon, yn gywir.
Ticiwch y blwch priodol isod er mwyn dangos blaenoriaeth yr achos.
Ticiwch UN o'r blychau isod er mwyn nodi'r hyn y mae problem y cwsmer yn berthnasol iddo.
Rhowch gofnod llawn o'r broblem sydd gan y cwsmer, a nodwch unrhyw ddulliau posibl o ddatrys y broblem neu gamau gweithredu mae'n rhaid i CThEM eu cymryd. Rhaid i gofnodion fod yn 2000 o nodau neu'n llai.
Ticiwch Sbardun yr Angen yn UN o'r blychau isod.
Ar ôl i chi glicio'r botwm 'Nesaf' dangosir tudalen 'Gwirio manylion', sy'n crynhoi'r wybodaeth a roddwyd gennych. Os na chaiff y dudalen hon ei dangos, defnyddiwch y bar sgrolio i ddod o hyd i unrhyw gofnodion sydd ar goll neu sy'n anghywir ac a amlygwyd mewn coch.