Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Treth Enillion Cyfalaf
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Treth Enillion Cyfalaf, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/calculate-your-capital-gains/non-resident.
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gyfrifiannell Treth Enillion Cyfalaf yn eich galluogi i gyfrifo’r swm sy’n daladwy i CThEF ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf breswyl a dibreswyl. Dyma’r dreth a godir ar eich elw pan fyddwch yn gwerthu eitemau megis eiddo neu gyfranddaliadau sydd wedi cynyddu mewn gwerth.
Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.
Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael anhawster i ddefnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:
- daeth gwasanaeth defnyddwyr i ben heb rybudd na’r opsiwn i barhau.
- nid oedd y berthynas rhwng y cynnwys ar y dudalen gwirio’ch atebion yn glir.
- ni wnaeth y cysylltiad i symud syth ymlaen ar gyfer gwall gweithio fel y disgwyl.
- nid oedd y cysylltiadau’n ddisgrifiadol.
- nid oedd trefn y dudalen yn cyd-fynd â’r cynllun gweledol.
- ni chafodd cyflwr y gydran manylion ei gyfleu i ddefnyddwyr darllenydd sgrin.
- nid oedd rhai elfennau a oedd yn bresennol gyda lliw a ddefnyddiwyd ar gyfer dangos ffocws arddull yn pasio’r gymhareb ddisgwyliedig.
- ni ddefnyddiwyd pennawd i gyflwyno cynnwys.
- nid oedd y testun a ddefnyddiwyd ar gyfer y gydran ‘manylion’ yn ddisgrifiadol i ddefnyddwyr darllenydd sgrin.
- Mae’n bosibl ni fydd darllenwyr sgrin yn gallu ynganu botymau radio sydd â chynnwys sydd wedi’i nythu’n gymhleth.
- Nid yw meysydd mewnbynnu arian cyfred pob tro yn rhoi arweiniad clir neu gymorth fformatio cyson. Gallai hyn gael effeith ar ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar dechnolegau cynorthwyol.
Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.
Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym
Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.
Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.
Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Daeth gwasanaeth defnyddwyr i ben heb rybudd neu heb gael cyfle i ymestyn eu hamser yn y gwasanaeth. Gall hyn fod yn rhwystredig i ddefnyddwyr, yn enwedig y rhai sy’n cael trafferth mewnbynnu gwybodaeth. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant 2.2.1 (timing adjustable) a 2.2.6 (timeouts) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Nid oedd y berthynas rhwng y cynnwys ar y dudalen ‘Gwirio’ch atebion’ yn glir, roedd <divs> wedi’i ddefnyddio i arddangos cynnwys. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin wybod pa wybodaeth sy’n berthnasol. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant 1.3.1 (info and relationships) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Ni wnaeth y cysylltiad i symud syth ymlaen ar gyfer gwall gweithio fel y disgwyl, gan nad oedd y Dynodydd Defnyddiwr yr oedd y ‘href’ yn cyfeirio ato yn bodoli. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant 2.4.1 (bypass blocks) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Oherwydd y ffordd y mae’r tabl wedi’i farcio, nid yw’n glir at beth y mae'r cysylltiadau 'Newid' yn cyfeirio, ac yn ychwanegol at hyn, nid yw’r testun sydd wedi’i guddio’n weledol yn glir ychwaith. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 (link purpose in context) a 2.4.9 (link purpose link only) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Mae’r cysylltiadau Iaith yn ymddangos ar ôl y cysylltiad ‘yn ôl’ yn weledol ond yn cael ffocws ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd cyn hynny. Gall hyn ddrysu defnyddwyr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.2 (meaningful sequence) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Yn Internet Explorer dangoswyd y gydran manylion yn ei chyflwr estynedig. Fodd bynnag, ni chafodd y cyflwr hwn ei gyfleu i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 (name, role, value) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Methodd lliw’r dangosydd ffocws a ddefnyddiwyd ar draws y gwasanaeth â bodloni’r gymhareb ddisgwyliedig o 3:1 i basio meini prawf llwyddiant 1.4.11 ‘Non-text Contrast AA’, Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, a gall fod yn anodd i rai defnyddwyr ei ganfod. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant 1.4.11 (non-text contrast) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Ni ddefnyddiwyd y pennawd i gyflwyno’r cynnwys, nodwyd swm gan y <h1>. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant 2.4.6. (headings and labels) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Nid oedd y testun a ddefnyddiwyd ar gyfer y gydran ‘manylion’ yn ddisgrifiadol i ddefnyddwyr darllenydd sgrin wrth lywio tu allan i gyd-destun y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant 2.4.6. (headings and labels) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Cynnwys cymhleth wedi’i nythu yn yr opsiwn radio (A). Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 (Name, Role, Value) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Mewnbynnau arian cyfred (A). Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.2 (Labels or Instructions) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 5 Ebrill 2026.
Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn
Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 15 Ionawr 2024 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.
Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Profwyd y gwasanaeth llawn gan CThEF, ac roedd y gwaith o brofi’r gwasanaeth yn cynnwys defnyddwyr anabl.
Paratowyd y dudalen hon ar 22 Medi 2020. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 11 Medi 2025.
A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)