Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Telerau ac amodau

Ymwadiad

Dylid darllen ein hysbysiad ymwadiad ar y cyd â’n polisi preifatrwydd

Mae gwefan CThEF a deunydd sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau’r llywodraeth (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) yn cael eu darparu ’fel y maent’ heb i unrhyw sylwadau neu ardystiadau gael eu gwneud, a heb warantiad o unrhyw fath p’un ai’n warantiad datganedig neu oblygedig, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r gwarantiadau goblygedig o ran ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cydweddoldeb, diogelwch a chywirdeb.

Ar ôl i ddeunydd gael ei lawrlwytho o wefan CThEF, eich cyfrifoldeb chi yw ei ddiogelu. Ni all CThEF dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, atebolrwydd, cais, gorchymyn neu iawndal sy’n codi o lawrlwytho’r deunyddiau hyn a’u defnyddio ar ôl hynny.

Nid ydym yn gwarantu y bydd y nodweddion sydd wedi’u cynnwys yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu’n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan neu’r gweinyddwyr sy’n ei darparu yn rhydd o feirysau neu’n cynrychioli nodweddion, cywirdeb neu ddibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, neu unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o ddefnyddio data neu golli defnydd o ddata, neu elw sy’n deillio o ddefnyddio gwefan CThEF neu mewn cysylltiad â’i defnyddio.

Defnyddio gwefan CThEF

Mae ein gwefan yn cael ei chynnal er eich defnydd personol chi. Mae eich defnydd o’r wefan yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. Maent yn dod i rym o’r dyddiad yr ydych yn defnyddio’r wefan hon am y tro cyntaf. Ar unrhyw adeg, gallwn adolygu’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd. Felly, dylid eu gwirio’n rheolaidd. Mae parhau i ddefnyddio’r wefan ar ôl i newid gael ei wneud yn golygu eich bod yn derbyn y newid.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau trydydd parti, neu sy’n cyfyngu ar drydydd parti neu’n ei rwystro rhag defnyddio’r wefan hon. Mae cyfyngiadau neu ataliadau’n cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon neu sy’n gallu aflonyddu ar unigolyn, achosi anghyfleustra neu drallod iddo, trawsyrru cynnwys anllad neu sarhaus, neu amharu ar lif arferol y deialog ar y wefan hon.

Caiff gwybodaeth a gasglwyd ei defnyddio at ddibenion adolygu mewnol, i wella neu addasu cynnwys a/neu drefn y wefan, a darparu gwasanaethau gwybodaeth i ddefnyddwyr y wefan. Nid yw’n cael ei rhannu gyda sefydliadau eraill at ddibenion masnachol.

Mae ein cyfrifoldebau a’n rhwymedigaethau i chi wrth gynnig y wefan hon ac unrhyw wasanaethau cysylltiedig wedi’u cyfyngu, fel sydd wedi’i nodi yn ein hysbysiad ymwadiad.

Gwasanaethau ar-lein

Mae gan nifer o’n gwasanaethau ar-lein telerau ac amodau (yn agor tab newydd) penodol sy’n ymwneud â’u defnydd. Bydd gofyn i chi gadarnhau eich bod yn derbyn y rhain pan fyddwch yn eu defnyddio am y tro cyntaf.

I gael arweiniad manwl ar ddiogelwch ar-lein, dilynwch y cysylltiad Diogelwch ar-lein – gwneud eich profiad ar-lein mor ddiogel â phosibl (yn agor tab newydd).

Y Goron a/neu drydydd parti sydd â’r hawlfraint i’r deunydd ar y wefan hon. Mae manylion yr hawlfraint i’w gweld yn ein hysbysiad hawlfraint (yn agor tab newydd).

Marciau perchenogol CThEF yw’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n enwi CThEF. Ni chaniateir copïo ein logos a/neu logos trydydd parti arall sy’n cael eu cyrchu drwy’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint berthnasol.

Nid yw CThEF yn cymeradwyo, yn achredu neu’n ardystio asiantau treth, neu’n caniatáu iddynt ddefnyddio’r logo yn eu deunydd hysbysebu.

Asiantau sy’n hysbysebu fel asiantau sydd wedi’u cofrestru gyda CThEF, neu eu hawdurdodi ganddo (yn agor tab newydd)

Cysylltu â gwefan CThEF

Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar y wefan hon. Nid ydym yn gwrthwynebu cysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth sydd ar ein gwefan. Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu llwytho ein tudalennau i mewn i fframiau ar eich gwefan chi. Mae’n rhaid i dudalennau CThEF lwytho i mewn i ffenestr lawn y defnyddiwr.

Cysylltiadau i wefannau allanol

Nid yw CThEF yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd unrhyw wefannau eraill yr ydym yn darparu cysylltiadau ar eu cyfer, ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r farn sy’n cael ei mynegi ynddynt. Nid yw’r ffaith bod CThEF yn darparu cysylltiadau yn golygu ei fod yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio ar bob adeg, ac ni allwn warantu y byddant ar gael. Yn benodol, nid yw CThEF yn gyfrifol am unrhyw bolisïau preifatrwydd ar wefannau allanol, ac rydym yn argymell eich bod yn darllen y datganiadau perthnasol ar unrhyw wefannau eraill yr ydych yn ymweld â nhw. Nid yw CThEF yn gyfrifol am ganlyniadau uniongyrchol neu anuniongyrchol cysylltu â gwefannau eraill o’r wefan hon.

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech rhesymol i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu, ac i gau unrhyw feirysau allan o’r wefan hon. Mae bob amser yn ddoeth rhedeg rhaglen gwrth-feirysau diweddar ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o wefan CThEF.

Polisi preifatrwydd

Mae ein polisi preifatrwydd yn egluro sut yr ydym yn diogelu ac yn parchu’r data sy’n cael ei gasglu gennych. Mae eich defnydd o’r wefan yn golygu eich bod yn derbyn y polisi hwn.

Cyfraith sy’n rheoli

Bydd y telerau a’r amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a’u dehongli’n unol â nhw. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y telerau a’r amodau hyn yn dod o dan awdurdodaeth neilltuedig y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Cafodd y telerau a’r amodau hyn eu diweddaru ddiwethaf ym mis Ebrill 2005.

A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)