Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Gwirio a oes angen i chi fod ar gael i fynychu arolygiad

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Gwirio a oes angen i chi fod ar gael i fynychu arolygiad, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/driver-inspection-notification/start.

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi gyrwyr a chludwyr sy’n symud nwyddau drwy ddull gyrru-ymlaen-ac-i-ffwrdd i Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon i gael gwybod yn ystod eu taith ynghylch p’un oes angen iddynt fod ar gael i fynychu arolygiad tollau ar ôl cyrraedd ai peidio. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r gwasanaeth symud cerbydau nwyddau (GVMS).

Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael anhawster i ddefnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:

  • Ar bob tudalen mae’r cysylltiad ‘Yn ôl’ yn bresennol pan fydd Javascript wedi’i analluogi. Efallai y bydd pobl sydd â nam gwybyddol ac echddygol yn ei chael yn anodd cael pen eu ffordd yn y gwasanaeth.
  • Ar y dudalen ‘Gwirio a oes angen i chi fod ar gael i fynychu arolygiad’, nid yw’r darllenydd sgrin yn ynganu cysylltiadau’r opsiwn iaith yn gywir mewn iaith frodorol. Gall hyn olygu na fydd y defnyddiwr hyd yn oed yn gallu deall yr hyn y mae’n ei ddweud hyd yn oed os oedd yn deall Saesneg.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.

Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym

Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.

Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.

Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Ar bob tudalen mae’r cysylltiad ‘Yn ôl’ yn bresennol pan fydd Javascript wedi’i analluogi. Efallai y bydd pobl sydd â nam gwybyddol ac echddygol yn ei chael yn anodd cael pen eu ffordd yn y gwasanaeth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Link Purpose (In Context). Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Mawrth 2024.

Ar y dudalen ‘Gwirio a oes angen i chi fod ar gael i fynychu arolygiad’, nid yw’r darllenydd sgrin yn ynganu cysylltiadau’r opsiwn iaith yn gywir mewn iaith frodorol. Gall hyn olygu na fydd y defnyddiwr hyd yn oed yn gallu deall yr hyn y mae’n ei ddweud hyd yn oed os oedd yn deall Saesneg. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Language of Parts. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Mawrth 2024.

Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn

Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 29 Mehefin 2021 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Profwyd y gwasanaeth llawn gan CThEF, ac roedd y gwaith o brofi’r gwasanaeth yn cynnwys defnyddwyr anabl.

Paratowyd y dudalen hon ar 3 Awst 2021. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 5 Chwefror 2024.

A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)