Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Gwirio’r dreth ar nwyddau rydych yn dod â nhw i’r DU

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Gwirio’r dreth ar nwyddau rydych yn dod â nhw i’r DU, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/check-tax-on-goods-you-bring-into-the-uk.

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wirio, datgan a thalu treth ar nwyddau rydych yn dod â nhw i mewn i’r DU at ddefnydd personol.

Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo’r sgrin hyd at 400% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2.

Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael anhawster i ddefnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:

  • Ar y tudalennau ‘Pa fath o nwyddau ydych am eu hychwanegu?’, efallai y bydd defnyddwyr darllenydd sgrin yn ei chael hi’n anodd deall pwrpas yr opsiynau radio gan nad ydynt wedi’u cysylltu â’r cwestiynau’n gywir.
  • Ar y dudalen ‘A oes gennych unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod yr eitem hon wedi’i chynhyrchu neu ei gwneud yn yr UE yn wreiddiol?’, efallai y bydd defnyddwyr darllenydd sgrin yn ei chael hi’n anodd deall pwrpas yr opsiynau radio gan nad ydynt wedi’u cysylltu â’r cwestiwn yn gywir.
  • Ar y tudalennau ‘Beth yw’ch cyfeiriad e-bost?’, ‘Beth yw manylion eich taith?’ ac ‘Ychwanegu nwyddau at eich datganiad blaenorol’, ni fydd darllenwyr sgrin yn darllen yn uchel y testun awgrym na’r negeseuon gwall wrth symud yn syth i’r meysydd mewnbwn oherwydd nad yw’r dudalen wedi’i sefydlu’n gywir.
  • Ar y tudalennau ‘Taliad wedi’i gwblhau’, ‘Y dreth sy’n ddyledus ar y nwyddau hyn’ a ‘Y dreth ychwanegol sy’n ddyledus ar y nwyddau hyn’ efallai y bydd defnyddwyr darllenydd sgrin yn ei chael hi’n anodd deall pwrpas y tablau gan nad oes nodyn i ddisgrifio'u pwrpas, na chwaith i wahaniaethau rhwng colofnau a rhesi’n gywir.
  • Nid yw’r cysylltiad i fynd yn ôl yn anfon y defnyddwyr yn ôl i’r dudalen berthnasol bob tro.
  • Ar y dudalen ‘Taliad wedi’i gwblhau’, nid yw cysylltiad enw’r gwasanaeth yn y pennawd yn anfon y defnyddiwr yn ôl i’r dudalen o ble wnaethant ddechrau.
  • Ar y dudalen ‘Pa rif fyddwch chi’n ei ddefnyddio i brofi pwy ydych?’, nid yw’r data a ychwanegwyd gan y defnyddwyr yn cael eu cadw pan fydd y defnyddwyr yn dychwelyd wrth ddefnyddio’r cysylltiad i fynd yn ôl.
  • Ar y dudalen ‘Ychwanegu nwyddau at eich datganiad blaenorol’, nid yw’r maes enw olaf yn caniatáu defnyddwyr i ddefnyddio’r data sydd wedi’u cadw yn eu porwr.
  • Wrth newid i’r fersiwn Gymraeg, nid yw'r neges rhagddodiad cudd ‘gwall’, sydd ar gael i ddefnyddwyr darllenydd sgrin, wedi cael ei gyfieithu ar bob dudalen. Ni fydd y rhain yn cael eu hynganu’n gywir ar gyfer defnyddwyr darllenydd sgrin.
  • Nid yw’r tudalennau ‘Gwiriwch eich atebion’ pob tro yn cael eu darparu er mwyn galluogi defnyddwyr i adolygu’r wybodaeth cyn cyflwyno’u datganiad.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.

Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym

Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.

Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.

Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r cwestiwn wedi’i dagio fel allwedd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 1.3.1 Info and Relationships a 2.4.6 Headings and Labels. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Nid yw’r cwestiwn wedi’i dagio fel allwedd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 1.3.1 Info and Relationships a 4.1.2 Name, Role, Values. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Nid yw’r testun awgrym na’r negeseuon gwall wedi cysylltu’n rhaglennol â rheolyddion y ffurflen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 1.3.1 Info and Relationships. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Mae capsiynau a nodweddion cwmpasu ar goll o’r tablau ac nid yw’r penawdau wedi’u marcio’n semantig chwaith. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 1.3.1 Info and Relationships. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Mae cysylltiadau i fynd yn ôl wedi’u codio’n galed, felly maent yn gallu mynd â’r defnyddwyr i dudalennau afresymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 2.4.4 Link Purpose (in context). Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Mae cysylltiad enw’r gwasanaeth yn mynd â’r defnyddwyr i dudalen dechrau gwahanol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 2.4.4 Link Purpose (in context). Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Nid yw’r data a ychwanegwyd gan y defnyddwyr yn flaenorol yn cael eu cadw. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 3.3.7 Redundant Entry. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Mae’r nodwedd awtogwblhau ar goll o’r maes enw olaf. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 1.3.5 Identify Input Purpose. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Pan gaiff tudalennau eu dangos yn Gymraeg, mae peth o’r cynnwys yn aros yn Saesneg ac nid oes ganddo’r nodwedd iaith berthnasol i ddangos ei fod mewn iaith wahanol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 3.1.2 Language of Parts. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Nid yw defnyddwyr pob tro yn cael cyfle i adolygu’r data a ddarperir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 - 3.3.4 Error Prevention (Legal, Financial, Data). Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ionawr 2026.

Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn

Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 4 Gorffennaf 2025 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2.

Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Profwyd y gwasanaeth llawn gan CThEF, ac roedd y gwaith o brofi’r gwasanaeth yn cynnwys defnyddwyr anabl.

Paratowyd y dudalen hon ar 17 Mai 2022. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 5 Awst 2025.

A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)