Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Cymorth i Gynilo
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Cymorth i Gynilo, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/help-to-save.
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Math o gyfrif cynilo yw Cymorth i Gynilo. Mae wedi’i gefnogi gan y Llywodraeth sy’n golygu bod yr holl gynilion yn y cynllun yn ddiogel. Mae’n rhoi cyfle i rai pobl sy’n cael Credyd Cynhwysol gael bonws o 50c am bob £1 y maent yn ei chynilo dros 4 blynedd.
Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo’r sgrin hyd at 400% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2.
Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael anhawster i ddefnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:
- Ar sawl tudalen, nid yw strwythur y penawdau wedi’i osod mewn ffordd resymegol ac nid yw’r penawdau yn disgrifio’r cynnwys. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bosibl y gallai defnyddwyr darllenydd sgrin gael trafferth deall strwythur y dudalen a dod o hyd i’r wybodaeth berthnasol.
- Ar hafan y cyfrif, mae’r panel llywio ar ochr y dudalen wedi’i nodi fel rhan o’r bar llywio eilaidd. Mae’n bosibl y gallai defnyddwyr darllenydd sgrin gael trafferth wrth lywio’r cynnwys hwn.
- Ar y dudalen ‘rheoli’ch cyfeiriad e-bost’, mae yna destun ffont trwm sy’n edrych fel pennawd ond sydd heb gael ei nodi fel pennawd Mae’n bosibl y gallai defnyddwyr darllenydd sgrin gael trafferth deall strwythur y dudalen.
- Mae sawl problem gyda fersiwn PDF y neges ‘sut mae eich cyfrif yn gweithio’. Does dim teitl i’r ddogfen a does dim iaith wedi’i gosod. Nid yw’r penawdau, na’r elfennau strwythurol eraill, wedi’u nodi’n gywir. Nid yw’r PDF yn gweithio ar ffurf ‘ail-lifo PDF’ – mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd chwyddo’r ddogfen.
- Yn yr adran ‘cyfrif’, nid yw’r cysylltiad ‘ewch yn syth i’r prif gynnwys’ yn osgoi’r cysylltiad i symud yn ôl. Mae hyn yn golygu na fydd defnyddwyr bysellfwrdd yn gallu hepgor gwybodaeth ailadroddus, a gall y defnyddwyr hyn golli eu lle ar y dudalen.
- Ar y dudalen ‘bwrw golwg dros drafodion’, mae yna sawl problem gyda’r gydran i hidlo yn ôl dyddiad. Nid yw’r testun awgrym wedi’i gysylltu’n gywir â’r meysydd mewnbwn ar gyfer nodi dyddiad, felly nid yw’r testun awgrym yn cael ei ddarllen gan y darllenydd sgrin wrth lywio drwy feysydd y ffurflen. Mae gan y cysylltiad ‘ailosod’ label hygyrch a gweladwy gwahanol, felly mae’n bosibl na all defnyddwyr meddalwedd adnabod lleferydd ddefnyddio’u llais i lywio’r dudalen.
- Y neges gwall sy’n gysylltiedig â’r meysydd mewnbwn ar gyfer nodi dyddiad ar y dudalen ‘bwrw golwg dros drafodion’ yw ‘Nodwch ddyddiad dilys’, ac nid yw’n rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gywiro’r gwall penodol.
- Ar y dudalen ‘eich negeseuon’, mae’r negeseuon yn ymddangos mewn colofnau yn hytrach na mewn tabl, felly nid ydynt yn cael eu darllen gan ddarllenydd sgrin. Mae’r negeseuon wedi’u codio fel botymau, ond yn ymddangos fel cysylltiadau. Mae’n bosibl y gallai defnyddwyr darllenydd sgrin gael trafferth deall strwythur y dudalen.
- Os byddai defnyddwyr yn dewis y botwm ‘ail-anfon yr e-bost’ wrth gadarnhau eu cyfeiriad e-bost, nid oes neges yn ymddangos i gadarnhau bod y botwm wedi ail-anfon yr e-bost yn llwyddiannus.
- Ar y dudalen ‘eich manylion’, nid oes gan y cysylltiadau ‘newid’ y testun ychwanegol cywir er mwyn i dechnoleg gynorthwyol allu rhoi cyd-destun o ran pwrpas y cysylltiad. Mae hyn yn golygu bod pob cysylltiad yn ymddangos fel ‘change change’ i ddarllenydd sgrin.
- Os bydd defnyddwyr yn nodi e-bost yn y fformat anghywir, bydd y broses ddilysu yn dechrau. Wrth i’r defnyddwyr gywiro’r gwall a pharhau i’r tudalennau nesaf, bydd yr wybodaeth gywir a nodwyd yn cael ei dileu os byddant yn llywio yn ôl i’r dudalen ‘cyfeiriad e-bost’. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr nodi’r wybodaeth eto.
- Os byddai mwy nag un gwall yn codi ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, dim ond y gwall cyntaf sy’n cael ei nodi fel gwall. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i ddefnyddwyr gywiro’r gwallau eraill.
- Mae yna achosion lle mae defnyddwyr yn cael eu hallgofnodi o’r gwasanaeth os nad oes gweithgarwch, a hynny heb rybudd na chyfle iddynt ymestyn eu sesiwn. Mae’n bosibl y gallai defnyddwyr gael trafferth os byddai angen rhagor o amser arnynt i gwblhau tasgau ac, o ganlyniad i hynny, byddant yn gorfod ail-ddechrau’r broses.
- Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, nid yw’r labelau gweladwy ar gyfer y maes ‘dyddiad dod i ben y cerdyn’ yn cyd-fynd â’r labelau sy’n ymddangos i’r sawl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. O ganlyniad i hyn, mae’n bosibl na all defnyddwyr meddalwedd adnabod lleferydd ddefnyddio’u llais i lywio’r dudalen.
- Ar y dudalen ‘a ydych yn siŵr eich bod am gau eich cyfrif?’, mae 2 ranbarth yn rhannu’r un enw hygyrch. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bosibl y gallai defnyddwyr darllenydd sgrin gael trafferth llywio’r dudalen hon.
- Nid yw’r cwestiynau ‘faint o arian rydych am ei godi/ei dalu i mewn’ wedi’u strwythuro’n gywir. Nid yw’r labelau na’r testun awgrym wedi’u cysylltu â’r maes mewnbwn, ac felly mae’n bosibl y gallai defnyddwyr darllenydd sgrin golli’r wybodaeth hon. Nid yw’r label gweladwy yn cyd-fynd â’r label sy’n gysylltiedig â’r maes mewnbwn, a gallai hyn ddrysu defnyddwyr darllenydd sgrin.
- Nid yw’r labelau hygyrch ar gyfer logo’r Apple App Store a’r Google Store yn cyd-fynd â’r cysylltiadau gweladwy. Gallai hyn ddrysu defnyddwyr darllenwyr sgrin. Mae hyn yn waeth ar dudalennau sydd wedi’u gosod yn Gymraeg, gan nad yw’r testun delwedd wedi’i gyfieithu.
- Ar y tudalennau ‘faint o arian rydych am ei godi/ei dalu i mewn’, os bydd gwall yn codi, nid yw’r negeseuon gwall wedi’u cysylltu â’r blwch mewnbwn. Mae hyn yn golygu y gallai defnyddwyr darllenydd sgrin golli’r wybodaeth hon.
- Ar rai tudalennau, mae gan y dangosydd ffocws gyferbynnedd isel yn erbyn y cefndir. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr â golwg gwan weld y dangosyddion hyn ar y dudalen.
- Ar y dudalen ‘os ydych o’r farn eich bod yn gymwys am gyfrif Cymorth i Gynilo’, nid oes modd defnyddio bysellfwrdd i gael mynediad at un o’r cysylltiadau. Mae hyn yn golygu na all defnyddwyr sy’n llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd gael mynediad at y cysylltiad hwn.
- Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, os bydd gwall yn codi, mae’r holl wybodaeth a nodwyd gan y defnyddiwr yn cael ei dileu ac mae’n rhaid ei nodi eto.
- Os bydd y cysylltiad ‘allgofnodi’ ym mhennawd y dudalen yn cael ei ddefnyddio, neu os bydd ffenestr naid terfyn amser yn ymddangos, bydd y dudalen sy’n dilyn yn dangos y geiriau ‘nid oedd modd cwblhau’ch cais’. Mae’n bosibl na fydd y defnyddwyr yn cael cadarnhad eu bod wedi allgofnodi’n llwyddiannus.
- Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, mae’n bosibl nad yw’r meysydd mewnbwn ar gyfer nodi manylion y cerdyn yn rhoi’r cyfle i ddefnyddwyr ddefnyddio data sydd wedi’u cadw’n flaenorol yn ei borwr i ragboblogi’r meysydd.
- Mae gan rai o’r cysylltiadau a’r botymau gyferbynnedd isel yn erbyn y cefndir. Mae hynny’n ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr sy’n defnyddio ffocws y bysellfwrdd, neu sy’n hofran dros y cysylltiadau a’r botymau hyn, ddarllen y testun.
- Wrth chwyddo’r dudalen ‘taliadau Barclaycard’, mae’r testun ‘Visa’ yn y maes ar gyfer nodi rhif cerdyn yn gorgyffwrdd â’r rhif sy’n cael ei nodi gan y defnyddwyr, a hynny’n ei gwneud hi’n anodd ei ddarllen.
- Yn yr adran ‘cyfrif’, mae’r ffenestr naid terfyn amser wedi torri’n rhannol, a gall y cynnwys hwn fynd ar goll wrth chwyddo’r sgrin.
- Wrth osod yr iaith yn Gymraeg, mae gan y cysylltiadau ‘newid’ destun sydd wedi’i guddio o’r golwg sydd heb gael ei gyfieithu ac sydd heb ei godio’n gywir. Mae hyn yn gallu ei gwneud hi’n anodd i ddarllenwyr sgrin ynganu’r cynnwys yn gywir.
- Nid yw trefn yr elfennau llywio, megis y cysylltiad ‘polisi preifatrwydd’ yn y troedyn, yn gyson ar draws y gwasanaeth. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bosibl y gallai defnyddwyr sy’n dibynnu ar gysondeb gael trafferth dod o hyd i’r elfennau hyn.
- Nid yw lleoliad y togl Cymraeg na’r cysylltiad i roi gwybod am broblem dechnegol yn gyson ar draws y gwasanaeth. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bosibl na fyddai defnyddwyr yn sylweddoli bod gan yr eitemau yr un pwrpas.
- Nid yw’r neges gwall sy’n gysylltiedig â’r maes mewnbwn ‘a ydych am gael e-byst atgoffa ynghylch cynilion?’ yn berthnasol i’r gwall sy’n codi mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu y gallai defnyddwyr gael trafferth cywiro’r gwall.
- Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, mae’r dangosydd ffocws ar goll ar gyfer 2 dab olaf y bysellfwrdd, sy’n golygu ei bod hi’n bosibl y gallai defnyddwyr golli eu lle ar y dudalen.
- Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, nid yw’r negeseuon gwall sy’n gysylltiedig â’r maes mewnbwn ‘rhif y cerdyn’ yn ddigon penodol. Mae’n bosibl y gallai defnyddwyr gael trafferth gwybod yr hyn sydd o’i le gyda’r wybodaeth a nodwyd ganddynt.
- Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, mae yna bennawd sydd wedi’i guddio o’r golwg ac nid yw’n disgrifio’r cynnwys sy’n ei ddilyn. Mae’n bosibl y gallai defnyddwyr darllenydd sgrin gael trafferth deall strwythur y dudalen a dod o hyd i wybodaeth.
Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.
Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym
Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.
Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.
Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Ar sawl tudalen, nid yw strwythur y penawdau wedi’i osod mewn ffordd resymegol, ac mae cynnwys wedi’i roi o dan benawdau amherthnasol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar hafan y cyfrif, mae’r panel llywio ar ochr y dudalen yn ymddangos fel elfen llywio, ond nid yw wedi’i nodi yn y rhanbarth llywio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘rheoli’ch cyfeiriad e-bost’ mae yna destun sy’n ymddangos fel pennawd ond sydd heb ei nodi fel pennawd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y PDF ‘sut mae eich cyfrif yn gweithio’, nid yw’r iaith wedi’i gosod, does dim teitl ar y dudalen, nid yw pob elfen wedi’u nodi’n gywir ac nid yw’r PDF yn gweithio ar ffurf ‘ail-lifo PDF’. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships), 2.4.2 (Page Titled), 3.1.1 (Language of Page) a 1.4.10 (Reflow) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Yn yr adran ‘cyfrif’, nid yw’r cysylltiad i symud yn syth ymlaen yn osgoi’r cysylltiad i symud yn ôl. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.1 (Bypass Blocks) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘bwrw golwg dros drafodion’, mae’r meysydd mewnbwn ar gyfer nodi dyddiad yn cynnwys testun awgrym nad yw’n gysylltiedig â’r meysydd hynny. Mae’r dudalen hefyd yn defnyddio cysylltiad hidlo gyda labelau gweladwy a labelau hygyrch gwahanol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships) na 2.5.3 (Label in Name) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘bwrw golwg dros drafodion’, nid yw’r negeseuon gwall sy’n gysylltiedig â’r meysydd mewnbwn ar gyfer nodi dyddiad yn ddigon penodol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.3 (Error Suggestion) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘eich negeseuon’, mae’r negeseuon yn ymddangos fel cysylltiadau ond wedi’u codio fel botymau, ac yn ymddangos mewn colofnau yn lle mewn tabl. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Wrth ddewis y botwm ‘ail-anfon yr e-bost’, nid yw’r defnyddwyr yn cael cadarnhad bod y botwm hwn wedi gweithio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.2 (Page Titled) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘eich manylion’, mae’r cysylltiadau i newid rhywbeth i gyd yn ymddangos fel cysylltiad ‘newid’, heb unrhyw gyd-destun o’r hyn y byddai’r defnyddwyr yn ei newid. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 (Link Purpose (In Context)) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Os byddai’r broses o ddilysu yn codi, a’r broses honno yn cael ei bodloni ar gyfer y maes ‘cyfeiriad e-bost’, mae’r wybodaeth gywir a nodwyd yn cael ei dileu os byddai’r defnyddwyr yn llywio yn ôl i’r dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.7 (Redundant Entry) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, os byddai mwy nag un maes yn gofyn am broses o ddilysu, mae’r negeseuon gwall sy’n ymddangos dim ond yn nodi’r gwall sy’n gysylltiedig â’r maes cyntaf. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.3 (Error Identification) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
UMae yna achosion lle mae defnyddwyr yn cael eu hallgofnodi o’r gwasanaeth heb unrhyw rybudd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.2.1 (Timing Adjustable) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, nid yw’r enwau hygyrch ar gyfer y meysydd mewnbwn ar gyfer nodi dyddiad dod i ben yn dechrau gyda’r label gweladwy. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.5.3 (Label in Name) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘a ydych yn siŵr eich bod am gau eich cyfrif?’, mae 2 ranbarth llywio sy’n rhannu’r un enw hygyrch, er bod ganddynt gynnwys gwahanol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Mae’r cwestiynau ‘faint o arian rydych am ei godi/ei dalu i mewn’ yn cynnwys elfennau label a thestun awgrym nad yw’n gysylltiedig, a labelau gweladwy a labelau hygyrch gwahanol ar gyfer y meysydd mewnbwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships) na 2.5.3 (Label in Name) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Nid yw’r labelau hygyrch ar gyfer logo’r Apple App Store a’r Google Store yn cyd-fynd â’r labelau gweladwy. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.5.3 (Label in Name) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Nid yw’r neges gwall sy’n gysylltiedig â’r meysydd mewnbwn ‘faint o arian rydych am ei godi/ei dalu i mewn’ yn gysylltiedig â’r hyn a nodwyd gan ddefnyddio aria-describedby. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Info and Relationships) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Mae yna achosion lle mae cyferbynnedd y dangosydd ffocws yn rhy isel yn erbyn y cefndir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.11 (Non-text Contrast) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘os ydych o’r farn eich bod yn gymwys am gyfrif Cymorth i Gynilo’, mae yna gysylltiad nid oes modd defnyddio bysellfwrdd i gael mynediad ato. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 (Keyboard) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, mae’r broses o ddilysu yn dileu’r holl wybodaeth a nodwyd gan y defnyddwyr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.7 (Redundant Entry) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Nid yw teitl y dudalen sy’n ymddangos ar ôl allgofnodi yn disgrifio cynnwys y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.2 (Page Titled) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard ’, nid yw’r meysydd mewnbwn yn cael eu rhagboblogi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.5 (Identify Input Purpose) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Mae cyferbynnedd rhai elfennau yn rhy isel wrth ddefnyddio ffocws y bysellfwrdd, neu wrth hofran dros y cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 (Contrast (Minimum)) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Wrth chwyddo’r dudalen ‘taliadau Barclaycard’ 400%, mae’r testun ‘Visa’ yn y maes ar gyfer nodi rhif y cerdyn yn gorgyffwrdd â’r hyn sy’n cael ei nodi gan y defnyddwyr, ac mae’r cyferbynnedd yn rhy isel. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 (Contrast (Minimum)) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Yn yr adran ‘cyfrif’, mae cynnwys y ffenestr naid terfyn amser yn torri wrth chwyddo 400%. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10 (Reflow) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘eich manylion’, mae priodoledd iaith berthnasol y cysylltiadau ‘newid’ yn ymddangos yn gywir ar y dudalen Saesneg, ond nid yn y Gymraeg. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.2 (Language of parts) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Nid yw trefn yr elfennau llywio yn y penawdau a throedynnau yn gyson ar draws y gwasanaeth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.2.3 (Consistent Navigation) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Nid yw’r togl Cymraeg na’r cysylltiad i roi gwybod am broblem dechnegol yn gyson ar draws y gwasanaeth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.2.4 (Consistent Identification) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Nid yw’r neges gwall ar gyfer maes mewnbwn ‘a ydych am gael e-byst atgoffa ynghylch cynilion?’ yn ddefnyddiol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.3 (Error Suggestion) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, mae’r dangosydd ffocws ar goll ar gyfer 2 dab y bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.7 (Focus Visible) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
r y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, nid yw’r negeseuon gwall yn ddigon penodol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.3 (Error Suggestion) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Ar y dudalen ‘taliadau Barclaycard’, mae yna bennawd sydd wedi’i guddio o’r golwg ac nid yw’n disgrifio’r cynnwys sy’n ei ddilyn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 (Headings and Labels) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 30 Ebrill 2027.
Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn
Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 4 Mehefin 2026 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2.
Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Profwyd y gwasanaeth llawn gan CThEF, ac roedd y gwaith o brofi’r gwasanaeth yn cynnwys defnyddwyr anabl.
Paratowyd y dudalen hon ar 20 Medi 2022. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 14 Hydref 2026.
A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)