Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer ap iOS CThEF

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r ap hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r ap.

Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am ap iOS CThEF, sydd ar gael yn https://apps.apple.com/gb/app/hmrc/id514561561.

Defnyddio’r ap hwn

Gallwch ddefnyddio ap CThEF i wneud pethau fel gwirio’ch taliad cyflog nesaf gan eich cyflogwr, gwirio’ch taliadau credyd treth nesaf, cael hyd i’ch cod treth a darganfod faint o Dreth Incwm y dylech ei thalu.

Darperir y ap hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r ap hwn. Mae hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio’r nodweddion hygyrchedd ar eich dyfais i wneud y canlynol:

  • gwrth-droi’r lliwiau ac addasu lefelau cyferbynnedd
  • cynyddu maint y testun heb i’r testun orgyffwrdd na chael ei docio
  • llywio drwy’r ap gan ddefnyddio Rheolydd Switsh
  • symud drwy’r ap gan ddefnyddio Rheolydd Llais
  • gwrando ar yr ap gan ddefnyddio VoiceOver

Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn yr app mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r ap hwn

Nid yw’r ap hwn yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Nid yw’r ap hwn wedi cael ei wirio eto i weld a yw’n cydymffurfio neu beidio, felly gall rhai defnyddwyr ei chael yn anodd defnyddio rhannau o’r ap.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r app hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd yr app hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.

Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym

Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.

Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.

Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr app hwn

Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud yr app hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Nid yw’r ap hwn yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Ni wiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd y gwasanaeth yn trefnu archwiliad hygyrchedd llawn erbyn 31 Mawrth 2026.

Sut gwnaethom brofi’r ap hwn

Nid yw’r ap wedi’i brofi i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Paratowyd y dudalen hon ar 10 Mehefin 2021. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 1 Awst 2025.

A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)