Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/report-quarterly/income-and-expenses/sign-up.
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i gofrestru’ch busnes i gyflwyno diweddariadau treth incwm gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu.
Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.
Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael anhawster i ddefnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:
- pan fyddwn yn defnyddio ‘dangoswch enghraifft i mi’ mewn cysylltiad, nid ydym wedi rhoi gwybod bod hyn er mwyn dangos enghraifft o ddulliau cyfrifyddu
- nid yw rhai darllenwyr sgrin yn symud i frig y dudalen pan fydd tudalen newydd yn cael ei llwytho
- os ewch yn ôl i dudalen flaenorol, weithiau bydd rhywfaint o’r wybodaeth a nodwyd gennych eisoes ddim yn cael ei dangos - efallai y bydd angen i chi ei hail-nodi
- bydd rhai o’n negeseuon gwall ddim yn eich helpu i ddeall beth allai’r gwall fod, na sut i’w drwsio
- nid yw’r cysylltiad ‘Yn ôl’ bob amser yn ymddangos o dan y togl Gymraeg
Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.
Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym
Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.
Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.
Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Pan fyddwn yn defnyddio ‘dangoswch enghraifft i mi’ mewn cysylltiad, nid ydym wedi rhoi gwybod bod hyn er mwyn ‘dangos enghraifft o ddulliau cyfrifyddu’. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Gorffennaf 2024.
Nid yw rhai darllenwyr sgrin yn symud i frig y dudalen pan fydd tudalen newydd yn cael ei llwytho. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Gorffennaf 2024.
Os ewch yn ôl i dudalen flaenorol, weithiau bydd rhywfaint o’r wybodaeth a nodwyd gennych eisoes ddim yn cael ei dangos - efallai y bydd angen i chi ei hail-nodi. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Gorffennaf 2024.
Bydd rhai o’n negeseuon gwall ddim yn eich helpu i ddeall beth allai’r gwall fod, na sut i’w drwsio. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Gorffennaf 2024.
Nid yw’r cysylltiad ‘Yn ôl’ bob amser yn ymddangos o dan y togl Gymraeg. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Gorffennaf 2024.
Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn
Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 26 Chwefror 2024 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.
Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Profwyd y gwasanaeth llawn gan CThEF, ac roedd y gwaith o brofi’r gwasanaeth yn cynnwys defnyddwyr anabl.
Paratowyd y dudalen hon ar 22 Medi 2020. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 17 Ebrill 2024.
A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)