Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Rhoi gwybod am Orhawliad ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Rhoi gwybod am Orhawliad ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/submissions/new-form/notify-intent-to-disclose-cjrs-overclaim.
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i CThEF y byddwch yn datgelu gorhawliad ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.
Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.
Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael anhawster i ddefnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:
- efallai fod rhai cysylltiadau, penawdau neu labeli nad ydynt yn rhoi digon o wybodaeth am beth i’w wneud nesaf neu’r hyn sy’n digwydd nesaf
- efallai fod rhai negeseuon gwall nad ydynt yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn eich helpu i gywiro gwall
Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.
Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym
Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.
Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.
Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Efallai fod rhai cysylltiadau, penawdau a labeli nad ydynt yn rhoi digon o wybodaeth am yr hyn i’w wneud nesaf neu’r hyn sy’n digwydd nesaf. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 (Headings and Labels) na maen prawf llwyddiant 2.4.9 (Link Purpose). Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Mawrth 2026.
Efallai fod rhai negeseuon gwall nad ydynt yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn eich helpu i gywiro gwall. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.3 (Error Suggestion). Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Mawrth 2026.
Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn
Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 18 Medi 2020 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.
Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Profwyd y gwasanaeth llawn gan CThEF, ac roedd y gwaith o brofi’r gwasanaeth yn cynnwys defnyddwyr anabl.
Paratowyd y dudalen hon ar 23 Medi 2020. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 31 Mawrth 2022.
A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)