Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Dewis Cyswllt Digidol
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Dewis Cyswllt Digidol, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/paperless.
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth Dewis Cyswllt Digidol yn galluogi cwsmeriaid CThEF i ddewis sut maent yn cael eu llythyrau treth, megis hysbysiadau i gyflwyno Ffurflenni Treth, neu gosbau. Gall cwsmeriaid ddewis post traddodiadol, neu gallant ddewis cael llythyrau treth ar-lein. Mae dewis llythyrau treth ar-lein yn golygu bod y gwasanaeth yn anfon rhai o’r llythyrau treth allweddol hyn i fewnflwch diogel y cwsmer. Gall y cwsmer gael at y rhain ar unrhyw adeg. Mae CThEF yn cadw’r llythyrau hyn am 7 mlynedd.
Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.
Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael anhawster i ddefnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:
- Nid oes gan y logo CThEF sydd yn y baneri a throedynnau ar bob tudalen ddigon o gyferbyniad lliw
- Ar un dudalen, mae rhai cysylltiadau ag geiriad tebyg, ond maent yn mynd i wahanol lefydd
- Mae’n anodd llywio rhai o’r tabiau gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.
Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym
Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.
Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.
Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol. Cafodd y gwasanaeth hwn ei brofi gan ddefnyddio’r twlsyn awtomaidd Axe.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Ar bob tudalen, nid yw’r cyferbyniad lliw o ran y logo CThEF sydd yn y faner yn ddigon clir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 (Contrast (Minimum)), Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Ar bob tudalen, nid yw’r cyferbyniad lliw o ran y logo CThEF sydd yn y troedyn yn ddigon clir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 (Contrast (Minimum)), Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Ar un dudalen, mae cysylltiadau sy’n mynd â’r defnyddiwr i newid gwahanol fewnbynnau yn defnyddio’r un geiriad. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.9 (Link Purpose (Link Only)), Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Bydd y gwasanaeth hefyd yn trefnu archwiliad hygyrchedd llawn erbyn 31 Mawrth 2026.
Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn
Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 16 Medi 2020 gan ddefnyddio offerynnau awtomataidd a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.
Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.
Paratowyd y dudalen hon ar 22 Medi 2020. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 22 Medi 2020.
A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)