Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Taliadau Ar-lein

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Taliadau Ar-lein, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/pay.

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Y gwasanaeth Taliadau Ar-lein yw dull digidol CThEF o dalu gan ddefnyddio cerdyn. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr dalu eu rhwymedigaethau treth ar gyfer cyfundrefnau sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, TAW, Hunanasesiad, COTAX ac EPAYE. Mae’n derbyn cardiau debyd busnes a phersonol yn ogystal â chardiau credyd busnes.

Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael anhawster i ddefnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:

  • Ar un adeg, rydym yn dangos iFrame taliad, sy’n cael ei reoli gan Barclaycard. Efallai y bydd defnyddwyr â nam ar eu golwg yn ei chael yn anodd llywio’r gwasanaeth, hyd yn oed gyda thechnoleg gynorthwyol.
  • Mae rhai negeseuon gwall yn y gwasanaeth hwn efallai’n na fydd yn ddigon disgrifiadol i rai defnyddwyr â nam ar eu golwg – fodd bynnag maent yn gydnaws ag offer technoleg gynorthwyol gyffredin.
  • Ar ryw adeg, rydym yn dangos tudalennau lle nad yw’r fformatio ar gyfer elfennau unigol ar y sgrin yn gwbl addas ar gyfer technolegau darllen sgrin, ac felly’n arwain at dudalen sy’n anodd ei llywio o ganlyniad i wybodaeth anghyflawn. Fodd bynnag, bydd defnyddio darllenydd sgrin i ddarllen y dudalen gyfan yn uchel yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen i lywio’r dudalen yn hyderus.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.

Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym

Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.

Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.

Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Rydym yn defnyddio iFrame Barclaycard i gymryd manylion y cerdyn a’r taliadau ar gyfer y tâl neu’r dreth y mae defnyddwyr yn eu talu. Nid yw’r iFrame hwn yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gadarnhau eu manylion ar ôl iddynt eu nodi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.6 (Error Prevention) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 15 Rhagfyr 2021.

Rydym yn defnyddio teitlau ar ein tudalennau gwe er mwyn disgrifio pwnc neu bwrpas y dudalen y mae’r defnyddiwr yn edrych arni ar hyn o bryd. Mewn rhai achosion, nid yw’r teitlau ar y tabiau a’r prif deitlau yn gyson. Mae hyn yn golygu nad yw’r gwasanaeth yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 (Headings and Labels) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 15 Rhagfyr 2021.

Rydym yn defnyddio penawdau ac is-benawdau tudalennau i ddisgrifio pwnc neu bwrpas meysydd ar dudalen we. Ar rai tudalennau, mae yna benawdau lefel 3 sy’n benawdau lefel 2 mewn gwirionedd. Mae hyn yn achosi i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin gael gwybodaeth aneglur ynghylch y dudalen. Mae hyn yn golygu nad yw’r gwasanaeth yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.10 (Section Headings) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 15 Rhagfyr 2021.

Rydym yn defnyddio botymau radio i gyflwyno opsiynau i ddefnyddwyr ar ein tudalennau gwe. Mae’r rhain yn cael eu grwpio gyda’i gilydd i alluogi llywio haws i ddefnyddwyr sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig. Mewn rhai achosion, mae’r grwpiau hyn yn colli eu labeli, sy’n atal rhai meddalwedd darllen sgrin rhag adrodd y label. Mae hyn yn golygu nad yw’r gwasanaeth yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 (Headings and Labels) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We. Bydd hyn yn cael ei drwsio erbyn 15 Rhagfyr 2021.

Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn

Cafodd y gwasanaeth ei brofi ddiwethaf ar 25 Medi 2019 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Adeiladwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio rhannau a brofwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Profwyd y gwasanaeth llawn gan CThEF, ac roedd y gwaith o brofi’r gwasanaeth yn cynnwys defnyddwyr anabl.

Paratowyd y dudalen hon ar 9 Hydref 2019. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 11 Chwefror 2021.

A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)