Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Ffurflenni argraffu ac anfon

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn, beth i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ei ddefnyddio, a sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Ffurflenni argraffu ac anfon, sydd ar gael yn https://www.tax.service.gov.uk/print-and-post.

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth argraffu ac anfon yn galluogi cwsmeriaid CThEF i lenwi ffurflen ar-lein. Mae fersiwn PDF o’r ffurflen wedi’i llenwi ar gael wedyn fel y gall y cwsmer ei hargraffu, ei harwyddo a’i hanfon i CThEF.

Darperir y gwasanaeth hwn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun a ddefnyddir yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn

Nid yw’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Nid yw’r gwasanaeth hwn wedi cael ei wirio eto i weld a yw’n cydymffurfio neu beidio, felly gall rhai defnyddwyr ei chael yn anodd defnyddio rhannau o’r gwasanaeth.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch gysylltu â CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi ffurflenni, neu i gael fformat gwahanol, megis print bras, recordiad sain neu Braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am y broblem hygyrchedd.

Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu’r Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu gael ymweliad personol gennym

Rydym yn cynnig gwasanaeth ‘text relay’ os ydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd.

Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu gallwch drefnu ymweliad gan ymgynghorydd CThEF i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth.

Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol oddi wrth CThEF.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae CThEF wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Nid yw’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Ni wiriwyd ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Bydd y gwasanaeth yn trefnu archwiliad hygyrchedd llawn erbyn 31 Mawrth 2026.

Sut gwnaethom brofi’r gwasanaeth hwn

Nid yw’r gwasanaeth wedi’i brofi i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.

Paratowyd y dudalen hon ar 1 Gorffennaf 2024. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 1 Gorffennaf 2024.

A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)