Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Dewiswch yr holl dreuliau rydych am eu hawlio

Os ydych yn hawlio treuliau dim ond ar gyfer gwisg unffurf, dillad gwaith ac offer (treuliau cyfradd unffurf), nid oes angen i chi anfon tystiolaeth
Dewiswch yr holl dreuliau rydych am eu hawlio
Gallwch ond hawlio costau ychwanegol ir cartref fel galwadau ffôn busnes, nwy a thrydan ar gyfer yr ystafell rydych yn gweithio ynddi. Ni allwch hawlio am bethau rydych chin eu defnyddio at ddibenion preifat a gwaith fel rhent, band eang, offer neu ddodrefn.
Mae hyn yn cynnwys cost golchi’ch gwisg, neu atgyweirio neu amnewid dillad amddiffynnol neu offer bach yr ydych yn berchen arnynt ond rydych yn eu defnyddio ar gyfer gwaith. Dim ond lle rydych yn hawlio mwy na’r swm sefydlog o ryddhad treth y mae angen i chi roi tystiolaeth. I gael rhagor o wybodaeth gwiriwch faint o ryddhad treth y gallwch ei hawlio ar gyfer gwisgoedd unffurf, dillad gwaith ac offer (yn agor ffenestr newydd)
Mae hyn yn cynnwys costau milltiroedd a thanwydd, yn dibynnu a ydych yn defnyddio eich cerbyd eich hun neu gerbyd cwmni.
Mae hyn yn cynnwys yr arian a wariwyd gennych ar fwyd neu aros dros nos nad yw eich cyflogwr wedi’i dalu’n ôl. Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r hyn yr ydych wedi’i wario.
Mae hyn yn cynnwys tanysgrifiadau neu ffioedd proffesiynol yr ydych yn eu talu i sefydliadau proffesiynol cymeradwy (yn agor ffenestr neu dab newydd) er mwyn gallu gwneud eich swydd. Bydd angen i chi wybod y ffi flynyddol lawn, ac unrhyw gyfraniadau gan gyflogwyr.
Dim ond os oes angen yr offer arnoch at ddiben eich swydd y gallwch hawlio rhyddhad treth, a bod yr offer hyn dim ond yn cael eu defnyddio at ddiben gwaith. Os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf, efallai y bydd modd i chi hawlio gan ddefnyddio lwfansau cyfalaf (yn agor ffenestr neu dab newydd).
A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)