Cofrestru ar gyfer TWE ar-lein
Dylech barhau dim ond os yw’r cwmni’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, un o’r canlynol:
- talu unrhyw gyflogeion, gan gynnwys cyfarwyddwyr y cwmni, £96 neu fwy yr wythnos
- cyflogi rhywun, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddwr cwmni, sydd eisoes yn cael pensiwn neu sydd â swydd arall
- darparu treuliau neu fuddiannau i gyflogeion, gan gynnwys cyfarwyddwyr y cwmni
- hurio isgontractwyr ar gyfer gwaith yn y diwydiant adeiladu
Bydd arnoch angen rhif Yswiriant Gwladol o leiaf un cyfarwyddwr cwmni.
Mewngofnodi i’r gwasanaeth
Rhaid i chi fewngofnodi ar y sgrin nesaf.
Oni bai eich bod yn asiant treth proffesiynol sy’n cofrestru cleient, defnyddiwch gyfrif y llywodraeth ar gyfer y busnes rydych am ei gofrestru. Os nad oes gan y busnes un, bydd modd i chi greu un drwy glicio 'Nid oes gennyf gyfrif Porth y Llywodraeth. Dylai asiantau ddefnyddio manylion eu cyfrif eu hunain.