Amcangyfrif sut y bydd y newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ym mis Ebrill 2024 yn effeithio arnoch

Defnyddiwch yr offeryn hwn i amcangyfrif sut y bydd y gostyngiad i brif gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ym mis Ebrill 2024 yn effeithio arnoch.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd cyflogeion yn gweld eu prif gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) yn gostwng o 10% i 8%.

Mae hyn ar ben y newid a wnaed ar 6 Ionawr 2024 pan roedd CYG wedi’u gostwng o 12% i 10%.

Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch hefyd yn gweld gostyngiad i’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n daladwy ar eich elw o fis Ebrill 2024 ymlaen, o ganlyniad i newidiadau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref 2023 a Chyllideb y Gwanwyn 2024 (yn agor tab newydd). Ni allwch ddefnyddio’r offeryn hwn i gael amcangyfrif o sut y bydd y gostyngiad i brif gyfradd Dosbarth 4 a’r newidiadau i Ddosbarth 2 yn effeithio arnoch.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch gael amcangyfrif os ydych yn gyflogedig a chewch eich talu’r un swm bob mis gan eich cyflogwr drwy’r system TWE. TWE yw system CThEF o gasglu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac mae’n golygu bod y cyfraniadau’n cael eu tynnu o’ch cyflog cyn i chi gael eich talu.

Mae’r offeryn hwn yn rhoi amcangyfrif o’r gostyngiad misol i’ch CYG, a’r gwerth cyfatebol dros 12 mis. Cymerir yn ganiataol wrth amcangyfrif bod eich trefniadau gweithio yn aros yr un peth rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Ebrill 2024. Mae’n bosibl na fydd yn fanwl gywir os bydd eich trefniadau gweithio’n newid, neu os oes gennych drefniadau gwahanol, er enghraifft:

  • nid ydych yn agored i dalu prif gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y DU ar y gyfradd safonol ar eich enillion – er enghraifft:
    • rydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
    • rydych yn hunangyflogedig
    • rydych yn talu’r gyfradd is
    • rydych yn gweithio y tu allan i’r DU
  • naill ai fod gennych fwy nag un cyflogwr, neu nid ydych yn cael eich holl enillion yn gyson fesul mis (neu’r ddau beth hyn) – er enghraifft:
    • rydych yn cael bonws
    • rydych yn cael comisiwn
    • rydych yn cael eich talu’n wythnosol
  • mae newid, neu bydd newid, i’ch amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y swm o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU y byddwch yn eu talu yn y cyfnod – er enghraifft, rydych yn cael codiad cyflog neu’n newid cyflogwyr
  • rydych yn gyfarwyddwr

Cael amcangyfrif

Cewch amcangyfrif ar sail gwybodaeth gyfyngedig. Efallai na fydd yn rhoi cyfrifiad manwl gywir o’ch rhwymedigaeth i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Dechrau nawr