Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Mae’r offeryn yn gymorth ac mae’n bosibl na fydd yn cwmpasu pob amgylchiad.
Bydd yn eich helpu i wirio a allwch wneud cais am dystysgrif swm rhydd o dreth trosiannol.
Ni ddylech ddefnyddio’r offeryn hwn os ydych:
- dros 75 oed
- yn Gynrychiolydd Personol Cyfreithiol aelod a oedd dros 75 oed adeg y farwolaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth drwy ddarllen tudalen PTM174100 o’r Llawlyfr Treth Pensiynau (yn agor tudalen Saesneg), neu efallai yr hoffech ofyn am gyngor ariannol annibynnol.