Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Gwasanaeth newydd yw hwn – bydd eich adborth yn ein helpu i’w wella.

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Fel arfer mae’n cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

Mae yna 3 adran i’w llenwi.

Bydd y canlyniad ar sail gwybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi, ac ni fydd CThEF yn ei chadw na’i defnyddio.

Gallwch wirio a diwygio’ch atebion chi ar ddiwedd pob adran.

Gwnewch yn siŵr bod gweithiwr proffesiynol cymwys ar gael i ateb y cwestiynau yn yr arweiniad hwn, neu eich helpu chi gyda’u hateb nhw.

Gweithiwr proffesiynol cymwys yw rhywun sydd â chymwysterau addas neu brofiad yn y maes y mae’r prosiect Ymchwil a Datblygu’n ymwneud ag ef, sef maes gwyddoniaeth neu dechnoleg yn yr achos hwn. Fel arfer, dyma rywun sy’n ymwneud â’r prosiect yn uniongyrchol ac sydd â’r arbenigedd proffesiynol perthnasol i’r datblygiad rydych chi’n ceisio ei wneud.

Dylech ystyried pob prosiect yn unigol pan fyddwch chi’n defnyddio’r arweiniad hwn i ddeall p’un a yw’n gymhwysol fel Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth.

Parhau