Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Cwcis

Caiff ffeiliau bach (a elwir yn ‘cwcis’) eu gosod ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth am sut yr ydych yn pori’r wefan.

Defnyddir cwcis i:

  • mesur sut yr ydych yn defnyddio’r wefan er mwyn iddi gael ei diweddaru a’i gwella ar sail eich anghenion
  • cofio’r negeseuon hysbysu yr ydych wedi’u gweld er mwyn i chi beidio â’u gweld eto

Ni ddefnyddir cwcis GOV.UK i’ch enwi’n bersonol.

Fel arfer, gwelwch neges ar y wefan cyn i gwci gael ei storio ar eich cyfrifiadur.

Rhagor o wybodaeth am sut i reoli cwcis (yn agor tab newydd).

Sut y mae cwcis yn cael eu defnyddio

Yn mesur defnydd o’r wefan (Google Analytics)

Mae meddalwedd Google Analytics yn casglu gwybodaeth am sut yr ydych yn defnyddio’r wefan. Caiff hyn ei wneud er mwyn helpu i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr, ac er mwyn helpu i’w gwella.

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am:

  • y tudalennau yr ydych yn ymweld â nhw – faint o amser yr ydych yn treulio ar bob tudalen
  • sut y gwnaethoch gyrraedd y wefan
  • yr hyn yr ydych yn clicio arno wrth ymweld â’r wefan

Nid ydym yn casglu neu’n storio eich gwybodaeth bersonol (er enghraifft, eich enw neu’ch cyfeiriad). Felly, nid oes modd defnyddio’r wybodaeth hon i’ch enwi.

Ni chaiff Google ddefnyddio neu rannu ein data dadansoddi.

Cwcis ar gyfer mesur defnydd o’r wefan
Enw Pwrpas Yn dod i ben
_gat Mae hyn yn ein helpu i ddarganfod sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan 10 munud
GDS_successEvents and GDS_analyticsTokens Mae’r rhain yn ein helpu i ddarganfod sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan 4 mis
_ga Mae hyn yn ein helpu i ddarganfod sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan 2 flynedd
ga_nextpage_params Mae hyn yn storio data i’w anfon at Google ar y dudalen nesaf yr ydych yn ymweld â hi Pan fyddwch yn cau eich porwr

Gallwch optio allan o gwcis Google Analytics (yn agor tab newydd).

Cymharu fersiynau gwahanol o dudalen we (Optimizely)

Defnyddir meddalwedd Optimizely i brofi fersiynau gwahanol o dudalen we (neu dudalennau gwe) er mwyn gweld pa un sy’n perfformio orau. Caiff hyn ei wneud er mwyn helpu i wella’r wefan a sicrhau ei bod yn diwallu anghenion ei defnyddwyr.

Cwcis ar gyfer cymharu fersiynau gwahanol o dudalen we
Enw Pwrpas Yn dod i ben
optimizelyEndUserId Mae hyn yn ein helpu i weld sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan 10 mlynedd
optimizelyRedirectData Mae hyn yn ein helpu i weld sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan 5 eiliad
optimizelyOptOut Rhowch wybod i ni nad ydych am fod yn rhan o brofi ein tudalennau gwe fel defnyddwyr 10 mlynedd

Sesiynau

Caiff cwci ei osod i gofnodi eich gweithgarwch yn ystod y sesiwn.

Cwcis sesiwn
Enw Pwrpas Yn dod i ben
mdtp Yn storio data’r sesiwn Pan fyddwch yn cau eich porwr
mdtpp Yn storio data’r sesiwn Pan fyddwch yn cau eich porwr
mdtpdf Yn storio data’r sesiwn Pan fyddwch yn cau eich porwr
mdtprc Yn storio data’r sesiwn Pan fyddwch yn cau eich porwr
mdtpolpb Yn rhoi mynediad at GOV.UK One Login Beta i’r defnyddiwr 180 diwrnod
PLAY_FLASH Yn storio data’r sesiwn Pan fyddwch yn cau eich porwr
PLAY_LANG Fe’i defnyddir i storio’ch dewis iaith dros dro Pan fyddwch yn cau eich porwr
remme Mae hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod defnyddiwr ar ddyfais sy’n ceisio mynd drwy her y Dull Gwirio 2-gam 7 diwrnod
mdtpdi Defnyddir hyn er mwyn adnabod dyfais benodol sydd wedi rhyngweithio â gwasanaethau treth, a hynny at ddiben archwiliadau diogelwch mewnol 10 mlynedd

Ein neges ragarweiniol

Efallai y gwelwch neges naid sy’n eich croesawu pan fyddwch yn ymweld â’r wefan am y tro cyntaf. Er mwyn i’ch cyfrifiadur wybod eich bod wedi gweld y neges, a gwybod peidio â’i dangos eto, caiff cwci ei storio.

Cwcis ar gyfer neges ragarweiniol
Enw Pwrpas Yn dod i ben
seen_cookie_message Yn cadw neges er mwyn rhoi gwybod i ni eich bod wedi gweld ein neges am gwcis 1 mis

Baner ymchwil defnyddwyr

Efallai y gwelwch faner am ymchwil defnyddwyr pan fyddwch yn ymweld. Er mwyn i’ch cyfrifiadur wybod eich bod wedi dewis peidio â’i weld eto, caiff cwci ei storio.

Cwcis ar gyfer baner ymchwil defnyddwyr
Enw Pwrpas Yn dod i ben
mdtpurr Yn cadw neges er mwyn rhoi gwybod i ni nad ydych am ei weld eto. 1 mis

Ein harolwg boddhad

Defnyddir SurveyMonkey (yn agor tab newydd) i gasglu atebion i’r arolwg. Os cymerwch ran, bydd SurveyMonkey yn cadw cwcis ychwanegol ar eich cyfrifiadur i ddilyn eich cynnydd.

Cwcis ar gyfer arolwg boddhad
Enw Pwrpas Yn dod i ben
mbox Caiff hyn ei ddefnyddio i gadw eich cynnydd drwy gydol yr arolwg 30 munud
SSOE Caiff hyn ei ddefnyddio i brofi gwahanol gynnwys a nodweddion ar wefan yr arolwg er mwyn helpu i’w gwella Pan fyddwch yn cau eich porwr
TS5159a2 a TSd0b041 Caiff y rhain eu defnyddio i reoli traffig yr arolwg drwy anfon eich cyfrifiadur i weinyddwr penodol Pan fyddwch yn cau eich porwr
ep201 Caiff hyn ei ddefnyddio i’n helpu i ddarganfod sut yr ydych yn defnyddio’r arolwg 30 munud
ep202 Mae hyn yn gweithio gyda ep201 i’n helpu i ddarganfod sut yr ydych yn defnyddio’r arolwg 1 flwyddyn

Cwcis cynorthwyydd digidol

Gellir cael hyd i gynorthwyydd digidol a chyfleuster sgwrs dros y we CThEF ar wahanol dudalennau gwasanaethau CThEF. Er mwyn i’r cynorthwyydd digidol a’r wefan weithio’n gywir, mae angen y cwcis canlynol:

Cwcis ar gyfer Cymorth Digidol
Enw Pwrpas Yn dod i ben
inqCA_10006330 Baner gweithgarwch sgwrsio, sy’n ofynnol ar gyfer adfer swyddogaeth sgwrs dros y we os yw’r defnyddiwr (wrth sgwrsio) yn ail-lwytho’r dudalen, yn llywio i dudalen newydd o fewn safle CThEF neu’n gadael safle CThEF ac yn dychwelyd cyn terfyn amser y sesiwn. Pan fyddwch yn cau eich porwr
inqVital_10006330 Data parhaus am y cwsmer. Mae’r cwci hwn yn storio gwybodaeth am y cwsmer (dynodydd ‘Nuance’ unigryw), gweithgaredd sgwrsio diwethaf, pryniannau yn y gorffennol ac ati. Defnyddir y cwci hwn i osod cyflwr y gwerthiant ar ôl y sgwrs ac i gysylltu sgyrsiau gan yr un cwsmer. Pan fyddwch yn cau eich porwr
tcSrv_10006330 Baner ‘dangos arolwg’, sy’n ofynnol i ddangos a yw’r arolwg ar ôl y sgwrs a ddefnyddir ar gyfer sgyrsiau dros y we wedi’i gyflwyno i’r defnyddiwr. Pan fyddwch yn cau eich porwr
inqSession_10006330 Data’r sesiwn ar gyfer sgwrs bresennol. Gellir defnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei storio yn y cwci hwn i yrru’r rheolau busnes ac i adfer sgwrs (e.e. ar ôl ail-lwytho’r dudalen). Mae’r rhan fwyaf o’r data’n cael ei ddileu pan fydd sgwrs ar gau. Pan fyddwch yn cau eich porwr
inqState_10006330 Gwybodaeth am weithredoedd cwsmeriaid ar gyfer digwyddiadau ETL (Echdynnu, Trawsnewid a Llwytho – proses o logio data a ddefnyddir ar gyfer adrodd). Enghraifft: cyfrif sgyrsiau ar y safle, marcwyr tudalennau, cyfrif y cymorth, ac ati. Pan fyddwch yn cau eich porwr
JSESSIONID Cwci a ddefnyddir wrth olrhain sesiwn. Gan fod HTTP yn brotocol heb gyflwr, mae’r cwci’n cael ei greu i alluogi’r rhaglen sgwrsio dros y we i gadw cyflwr y sesiwn ar ochr y gweinydd. Pan fyddwch yn cau eich porwr

Canfod JavaScript

Gall rhai tudalennau ddarparu profiad gwell pan gaiff JavaScript ei alluogi, a gallant ddefnyddio cwci i ganfod hyn.

Cwcis ar gyfer canfod JavaScript
Enw Pwrpas Yn dod i ben
JS‑Detection Mae hyn yn rhoi gwybod i ni a ydych yn pori tax.service.gov.uk wrth redeg JavaScript. 1 flwyddyn

Cwcis Pega

Math o dechnoleg yw Pega. Rydym yn ei defnyddio i greu gwasanaethau digidol. Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth Pega, byddwn yn storio cwcis hanfodol. Mae’r cwcis hyn yn gwneud y canlynol:

  • cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel
  • sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithio’n iawn

Nid oes angen i ni ofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r mathau hyn o gwcis.

Dysgwch ragor am gwcis ar wasanaethau Pega (yn agor tab newydd).

A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)