Dewch o hyd i feddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
Bydd defnyddio meddalwedd yn eich galluogi i gyflwyno Ffurflenni TAW yn uniongyrchol i CThEF heb orfod mynd i wefan CThEF. Mae’r holl feddalwedd a restrir ar y dudalen hon wedi bod drwy broses gydnabod CThEF.
Mae angen talu am y rhan fwyaf o’r feddalwedd sydd wedi’u rhestru, ond mae yna rhai fersiynau ar gael sy’n rhad ac am ddim. Dylech ddewis meddalwedd sy’n addas ar eich cyfer chi.
Mae gan rai o’r feddalwedd a restrir isod nodweddion sy’n arbennig o addas ar gyfer y rhai hynny sydd ag anghenion hygyrchedd, er enghraifft nam ar y golwg a symudiad cyfyngedig.
Pa fath o feddalwedd sydd ar gael?
Meddalwedd cadw cofnodion
- mae’n diweddaru ac yn cadw eich cofnodion yn ddigidol
- mae’n gweithio’n uniongyrchol â systemau CThEM gan eich galluogi i gyflwyno Ffurflen TAW
Meddalwedd bontio
- mae’n gweithio â meddalwedd nad yw’n cydweddu, megis taenlenni, systemau cyfrifyddu a chynhyrchion digidol ar gyfer cadw cyfrifon
- mae’n eich galluogi i anfon yr wybodaeth sydd ei hangen at CThEM yn ddigidol ac yn y fformat cywir