Gwneud cais am Lwfans Priodasol
Mae Lwfans Priodasol yn eich galluogi i drosglwyddo £1,260 o’ch Lwfans Personol i’ch priod neu bartner sifil os yw’ch incwm yn llai nag incwm eich priod neu bartner sifil. Gall hyn ostwng treth eich priod neu bartner sifil hyd at £252 y flwyddyn dreth hon (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf).
Gallwch wneud cais am y canlynol:
- ar-lein, ar gyfer y flwyddyn bresennol ymlaen
- drwy’r post, ar gyfer hyd at y 4 blynedd blaenorol er mwyn ôl-ddyddio eich lwfans
Mae Lwfans Priodasol yn adnewyddu’n awtomatig ar ddiwedd pob blwyddyn dreth. Gallwch ei ganslo, ond ni fydd yn dod i ben tan ddiwedd y flwyddyn treth.
Cymhwystra
I fod yn gymwys i gael Lwfans Priodasol, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:
- rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- mae’ch incwm yn llai nag incwm eich partner, ac yn is na £12,570
- mae incwm eich partner yn llai na £50,270 yn y flwyddyn dreth bresennol
Os oeddech chi, neu’ch partner, wedi’ch geni cyn 6 Ebrill 1935
Cyfrifo faint y gallech fod yn elwa
Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell to see how much you could save in the current tax year. This does not form part of the application.
Cyn i chi wneud cais
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif Yswiriant Gwladol eich partner
- dyddiad eich priodas neu ddyddiad ffurfio’r bartneriaeth sifil