Cofrestru’ch cleientiaid ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Cyn i chi gofrestru’ch cleientiaid
I gofrestru’ch cleientiaid, mae’n rhaid i chi gael eu hawdurdodiad yn eich cyfrif gwasanaethau asiant.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi neu’ch cleientiaid yn defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr bod eich cleient yn unig fasnachwr neu’n cael incwm o eiddo (y tu mewn neu’r tu allan i’r DU).
Cyfnod cyfrifyddu
Gwnewch yn siŵr bod eich cleient yn defnyddio y naill neu’r llall o’r canlynol:
- cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill
- cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth (a bod modd defnyddio cyfnodau diweddaru calendr gyda’i feddalwedd sy’n cydweddu)
O flwyddyn dreth 2026 i 2027, bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ymestyn i bobl ag unrhyw gyfnod cyfrifyddu. Mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad eich cleient ar gyfer y blynyddoedd treth hyd at 5 Ebrill 2025 yn ôl yr arfer.
Byddwn yn gwirio a all eich cleient gofrestru pan fyddwch yn mynd ati i’w gofrestru
Pan fyddwch yn mynd yn eich blaen, bydd angen i chi nodi’r manylion canlynol ar gyfer un o’ch cleientiaid:
- enw
- rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad geni
Byddwn yn gwirio cofnod y cleient hwnnw ac yn rhoi gwybod i chi a allwch eu cofrestru.
A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)