Cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Cyn i chi gofrestru
I gofrestru, mae’n rhaid i chi fod yn unig fasnachwr neu’n cael incwm naill ai o eiddo yn y DU neu o eiddo tramor.
Mae’n rhaid i chi hefyd defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tab newydd).
Unig fasnachwr
Rydych yn unig fasnachwr os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun fel unigolyn ac yn gweithio i chi’ch hun. Enw arall ar hyn yw bod yn hunangyflogedig.
Nid ydych yn unig fasnachwr os daw eich incwm busnes o gwmni cyfyngedig yn unig.
Incwm o eiddo
Gallwch gofrestru os ydych yn cael incwm o eiddo yn y DU neu o’r eiddo sydd mewn gwlad arall. Er enghraifft, incwm o roi tai, fflatiau, neu gartrefi gwyliau ar osod, a hynny ar sail tymor hir neu dymor byr.
Mae’n bosibl y bydd angen i ni wirio pwy ydych
I gadarnhau pwy ydych, gallwch wneud y naill neu’r llal o’r canlynol:
- defnyddio ap i’ch paru â’ch ID ffotograffig
- ateb cwestiynau ynghylch yr wybodaeth sydd gennym amdanoch