Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Gofynnwch am gopi o’ch UTR ar gyfer Treth Gorfforaeth

Byddwn yn anfon copi o’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth drwy’r post i gyfeiriad cofrestredig y cwmni fel y’i dangosir yn Nhŷ’r Cwmnïau. Bydd yn eich cyrraedd drwy’r post er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • rhif cofrestru’r cwmni
  • enw’r cwmni cofrestredig

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais am gopi o UTR ar gyfer Treth Gorfforaeth ar gyfer cwmni sydd:

  • wedi ei gau’n swyddogol neu ei ddiddymu
  • wedi ei dynnu oddi ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau
  • wedi newid i fath gwahanol o sefydliad ac sydd ddim yn gwmni cofrestredig mwyach
  • wedi’i ymgorffori yn ddiweddar - dylai eich UTR gyrraedd cyfeiriad cofrestredig y cwmni yn fuan

Cyn i chi ddechrau

Efallai y gallwch hefyd ddod o hyd i’ch UTR ar gyfer Treth Gorfforaeth:

  • yn eich cyfrif treth busnes - os ydych eisoes wedi cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau treth ar-lein ac wedi cysylltu’r UTR â’ch proffil
  • ar lythyrau blaenorol gennym - megis llythyr i’ch atgoffa i gyflwyno Ffurflen Treth Gorfforaeth neu ar Ffurflen Treth Gorfforaeth flaenorol
Warning Alert Dim ond os yw’r cwmni wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.