Cymorth prisio
Prisiad
Gall eiddo gael cyfnodau prisio gwahanol:
Cyfredol
Y cyfnod prisio cyfredol yw’r prisiad gweithredol. Mae’n dangos:
y gwerth ardrethol cyfredol a osodwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA)
y manylion eiddo diweddaraf a gedwir gan y VOA
Blaenorol
Mae’r prisiad blaenorol yn dangos y gwerth ardrethol a manylion eiddo ar gyfer cyfnod yn y gorffennol. Gall fod mwy nag un prisiad blaenorol. Mae hyn yn digwydd pan fydd y VOA yn gwneud neu’n derbyn newidiadau i fanylion eiddo neu’r gwerth ardrethol. Gallwch weld prisiadau blaenorol sy’n mynd yn ôl i 1 Ebrill 2017.
Dyfodol
Mae’r VOA yn addasu gwerth ardrethol eiddo busnes bob ychydig o flynyddoedd i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Mae’r VOA yn galw hyn yn ’ailbrisio’. Bydd yr ailbrisio nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae’r prisiad yn y dyfodol yn dangos beth fydd gwerth ardrethol yr eiddo o 1 Ebrill 2026.
Dyddiad dod i rym
Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad y cymhwyswyd y gwerth ardrethol i’r eiddo
Os nad yw manylion eiddo neu’r gwerth ardrethol wedi newid ers yr ailbrisiad diweddaraf, y dyddiad dod i rym yw pan ddaeth yr ailbrisiad diweddaraf i rym.
Mae’n wahanol i ddyddiad newid y rhestr, sef y dyddiad y gwnaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ddiweddaru gwerth ardrethol eich eiddo.
Gwerth ardrethol
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn rhoi gwerth ardrethol i bob eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr. Mae’n seilio gwerthoedd ardrethol ar amcangyfrif o’r hyn y byddai’n ei gostio i rentu eiddo am flwyddyn, gan ddechrau ar ddyddiad penodol.
Nid y gwerth ardrethol yw’r swm rydych chi’n ei dalu. Mae cynghorau lleol yn defnyddio’r gwerth ardrethol i gyfrifo eich bil ardrethi busnes.
Disgrifiad
Dyma’r categori y mae eich eiddo yn gymwys iddo ac efallai na fydd yr un peth â’r hyn sydd yn y rhestr ardrethu. Er enghraifft, prif ddisgrifiad caffi yw siop
Cyfeirnod y cyngor lleol
Dyma gyfeirnod a roddir i bob eiddo gan y cyngor lleol. Fe’i defnyddir gan y cyngor lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae’n sicrhau bod y cyngor lleol yn defnyddio’r gwerth ardrethol cywir pan fydd yn cyfrifo’r bil ardrethi busnes ar gyfer eich eiddo.
Rhanbarth
Mae tafarndai yn dod o dan 3 rhanbarth yn dibynnu ar ble maen nhw yn y wlad: ‘Canol Llundain’, ‘Cyrion Llundain’ a ‘Rhanbarthol’.
Rhestr ardrethu
Mae’r VOA yn cyfrifo’r gwerth ardrethol ar gyfer pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr ac yn cynhyrchu rhestr ardrethu newydd bob ychydig flynyddoedd.
Mae’r rhestr yn cynnwys cyfeiriad yr eiddo, disgrifiad o’r eiddo, ei werth ardrethol a’r dyddiad y daw’r gwerth hwnnw i rym.
Daeth rhestr ardrethu 2017 i rym ar 1 Ebrill 2017. Daeth rhestr ardrethi 2023 i rym ar 1 Ebrill 2023. Bydd rhestr ardrethu newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.
Dyddiad newid y rhestr
Dyma’r dyddiad y diweddarodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) werth ardrethol eich eiddo. Mae’n wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad pan ddechreuodd newidiadau i’r eiddo neu’r ardal gyfagos effeithio ar y gwerth ardrethol.
Cyfeirnod y cynllun prisio
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn grwpio eiddo tebyg yn yr un ardal gyda’i gilydd mewn cynllun prisio. Mae hyn yn ei helpu i brisio eiddo’n deg ac yn gyson.
Mae gan bob cynllun amrediad o brisiau ar gyfer ardaloedd llawr (megis ardal mewn siop)ac eitemau ychwanegol (megis gofodau parcio). Mae eiddo yn y cynllun yn derbyn pris o fewn yr amrediad hwnnw. Dyma ’gyfradd sylfaenol’ yr eiddo. I osod y gyfradd sylfaenol, mae’r VOA yn edrych ar nodweddion unigol pob eiddo.
Er enghraifft,efallai y bydd y VOA yn tybio nad oes gan unrhyw eiddo yn y cynllun prisio amddiffyniad tân. Os oes gan un eiddo yn y cynllun hwnnw amddiffyniad tân, efallai bydd y VOA roi cyfradd sylfaenol uwch i’r eiddo hwnnw.
Mae gan bob cynllun prisio gyfeirnod.
Dull mesur
Y dulliau mesur a ddefnyddir gan amlaf gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yw:
Arwynebedd Fewnol Net (NIA) - a ddefnyddir ar gyfer eiddo fel swyddfeydd, siopau a bwytai
Arwynebedd Fewnol Gros (GIA) - a ddefnyddir ar gyfer eiddo diwydiannol fel ffatrïoedd a warysau
NIA yw cyfanswm yr arwynebedd y gellir ei ddefnyddio ar bob llawr o fewn adeilad, a fesurir hyd at arwyneb mewnol y waliau ffiniol. Nid yw’n cynnwys ardaloedd fel grisiau a cholofnau .
GIA yw cyfanswm arwynebedd adeilad a fesurir hyd at arwyneb mewnol y waliau allanol ar bob llawr.Mae’n cynnwys pethau fel grisiau a cholofnau. Nid yw’n cynnwys strwythurau allanol fel allanfeydd tân.
Mwy o wybodaeth am sut mae eiddo busnes yn cael eu mesur a’u prisio
Defnydd rhannol ddomestig
Os oes gan eiddo gymysgedd o ddefnyddiau domestig ac annomestig (megis siop gyda fflat y perchennog uwch ei ben) bydd ganddo brisiad ardrethi busnes yn ogystal â band Treth Gyngor.
Cyfradd sylfaenol
Y gyfradd sylfaenol yw’r pris fesul metr sgwâr a ddefnyddir yn y prisiad ar gyfer y prif ofod lyr eiddo.
Gall y VOA addasu’r gyfradd sylfaenol er mwyn ystyried beth yw eiddo unigol.
Rhyddhad trosiannol
Mae rhyddhad trosiannol yn cyflwyno newidiadau mawr yn raddol i’ch bil ardrethi busnes a achosir gan ailbrisio. Mae hyn yn berthnasol i eiddo yn Lloegr yn unig.
Ailbrisio yw pan fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn addasu gwerth ardrethol eiddo busnes i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo.
Mae’r VOA yn cyhoeddi tystysgrifau rhyddhad trosiannol. Mae eich cyngor lleol yn defnyddio’r gwerth yn y dystysgrif yn hytrach na’r gwerth ardrethol i gyfrifo eich bil ardrethi busnes. Mae rhyddhad trosiannol yn cael ei gymhwyso’n awtomatig gan eich cyngor os ydych yn gymwys.
Cod categori arbennig
Mae’r cod hwn yn nodi’r math o eiddo, ei ddefnydd a sut y cyfrifwyd y gwerth ardrethol. Mae hefyd yn dangos pa dîm o fewn Asiantaeth y Swyddfa Brisio fyddai’n delio â’r eiddo.
Mae codau eiddo cyffredin yn cynnwys:
151, 235 a 301 – mathau o warysau
203 a 204 – mathau o swyddfeydd
226 a 227 - o dafarndai
234 – math o fwytai
249 – math o siopau ac adeiladau
Nifer y lloriau
Dyma nifer y lloriau yn yr eiddo cyfan.
Llawr isaf eich eiddo
Dyma’r llawr isaf sy’n perthyn i’ch rhan chi o’r eiddo, nid llawr isaf yr eiddo cyfan.
Llawr uchaf eich eiddo
Dyma lawr uchaf eich rhan chi o’r eiddo, nid llawr uchaf yr eiddo cyfan.
Categori/graddfa
Rhoddir categori i wirod a gwerthiant bwyd yn seiliedig ar y fasnach ddisgwyliedig ar gyfer yr eiddo oherwydd eu lleoliad neu’r gwasanaethau a gynigir.
Trosiant teg a chynaliadwy
Amcangyfrif o’r fasnach flynyddol (ac eithrio TAW) y disgwylir i eiddo o’r math hwn ei gyflawni os y rhedir mewn ffordd weddol effeithlon.
Rhent %
Canran y trosiant teg a chynaliadwy a ddefnyddir ar gyfer y gwerth ardrethol.Caiff hyn ei gyfrifo o renti sy’n cael eu talu am dafarndai tebyg yn yr ardal leol.
Addasiadau
Mae addasiadau’n dangos ble mae gwerth gofod yn uwch neu’n is na’r gwerth a gymhwysir i eiddo eraill yn yr un cynllun prisio.
Gall prisiad fod â mwy nag un addasiad.
Gwerth
Dyma werth pob eitem sy’n ffurfio gwerth ardrethol cyffredinol eiddo.
Ar gyfer arwynebedd, dyma’r arwynebedd mewn metrau sgwâr wedi’i luosi â’r pris fesul metr sgwâr.
Ar gyfer unedau (megis system aerdymheru), dyma nifer yr unedau wedi’u lluosi â’r pris fesul uned.
Mae addasiad yn gwneud y gwerth yn uwch neu’n is na’r gwerth a gymhwysir i eiddo eraill.
Perthynoledd
Prisir ardaloedd mewn ambell eiddo mewn perthnasedd â’r prif ofod ar gyfer y defnydd penodol. Er enghraifft, os oes gan y prif ofod werth perthynol o 1.0, gallai ardaloedd eraill fod â pherthnasedd o 0.5 os ydynt hanner mor werthfawr o’u cymharu.
Gwerthiant gwirod
Rhennir gwerthiant gwirod yn 3 categori:
Tafarndai yng nghanol dinasoedd, trefi ac ardaloedd masnachol anghysbell
Tafarndai cyrchfan (lle gallai’r lleoliad ddenu busnes o ardal ehangach)
Tafarndai cymunedol a gwledig
Gwerthiant bwyd
Rhennir gwerthiant bwyd yn 2 gategori:
A - Bwydlenni gydag elw uwch â chostau is, er enghraifft bwydlenni am bris premiwm gyda gwerthiant uchel
B - Bwydlenni gydag elw is, er enghraifft bwydlenni cyffredin gyda phrisiau rhesymol, byrbrydau a brechdanau neu fwydlenni gyda chostau uwch, er enghraifft gyda chynhwysion lleol sydd angen sgiliau coginio medrus neu waith paratoi.
Llety
Masnach ar gyfer gosod ystafelloedd neu lety mewn caban. Dylai masnach llety gael ei gynnwys gyda’r fasnach bwyd ar gyfer tafarndai gyda chwe gwely neu lai ar osod.
Eraill
Mae hyn yn cynnwys ffynonellau ychwanegol o incwm fel gwerthiant tybaco, llogi ystafelloedd, gemau fideo a pheiriannau gwerthu.
Fel arfer mae derbynebau ar gyfer yr eitemau hyn yn cael eu hadlewyrchu yng ngwerthiant y gwirodydd, ond dylid eu cynnwys yma os ydyn nhw ar gyfer incwm rheolaidd er enghraifft taliadau mynediad i ddigwyddiad adloniant misol.
Rhowch wybod am broblem gyda’r dudalen hon
Os ydych yn cael trafferth defnyddio’r gwasanaeth hwn, gallwch gysylltu â ni am gymorth.
Cyfeiriad e-bost: ccaservice@voa.gov.uk