Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Gallwch ddod o hyd i god treth cyflogai ar:

  • y gwasanaeth TWE ar-lein
  • meddalwedd gyflogres
  • hysbysiadau cod P6 neu P9

Gallwch gyfrifo cod treth eich cyflogai newydd (yn agor tab newydd), os nad ydych yn siŵr.

Os yw cod treth y cyflogai yn gorffen ag W1, M1 neu X, mae’n golygu ei fod ar sail wythnos 1 neu sail mis 1. Enw arall ar hwn yw cod treth anghronnus.

Mae’n golygu bod treth yn cael ei chyfrifo’n seiliedig ar gyfnod cyflog presennol y cyflogai yn unig, nid y flwyddyn dreth gyfan.

Mae cod treth yr Alban yn dechrau gydag ‘S’.

Mae cod treth Cymru yn dechrau gydag ‘C’.

Nodwch god treth y cyflogai gan ddefnyddio priflythrennau a dim bylchau. Er enghraifft, 1257L, S1257LX, C1257LW1.