Beth yw dyddiad dechrau’r hawliad hwn?

O 1 Gorffennaf 2020 ymlaen, mae’n rhaid i hawliadau ddechrau a dod i ben yn ystod yr un mis calendr.

Os yw’n hawliad dilynol, gwnewch yn siŵr nad yw’r cyfnod hawlio yn gorgyffwrdd â’ch hawliad blaenorol.

Beth yw cyfnod hawlio?

Rydych yn cyflwyno hawliad o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws am gyfnod pan mae un neu fwy o’ch cyflogeion ar ffyrlo. Dyma’r cyfnod hawlio.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys yr holl gyflogeion yr effeithir arnynt mewn un hawliad, gan gynnwys cyflogeion sy’n dechrau ffyrlo neu’n ei orffen ar wahanol ddyddiadau o fewn y cyfnod hawlio.

Ni allwch wneud mwy nag un hawliad sy’n cwmpasu’r un cyfnod hawlio.

Dyddiad dechrau’r cyfnod hawlio

Ar gyfer yr hawliad cyntaf, dyma’r dyddiad y cafodd y cyflogai cyntaf ei roi ar ffyrlo (gall cyflogeion eraill gael eu rhoi ar ffyrlo ar ddyddiad diweddarach). Y cynharaf y gall y dyddiad dechrau fod yw 1 Mawrth 2020, sef y dyddiad y dechreuodd y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Os yw cyflogeion yn dal i fod ar ffyrlo ar ôl i’r cyfnod hawlio ddod i ben, gwnewch hawliad arall yn nes ymlaen i gwmpasu’r cyfnod ffyrlo parhaus. Ni all cyfnodau hawlio orgyffwrdd.

Dyddiad dod i ben y cyfnod hawlio

Dylai hwn fod yn ddyddiad sy’n cyd-fynd â rhediad cyflogres. Gall fod yn unrhyw ddyddiad hyd at 14 diwrnod o ddyddiad heddiw. Sylwer nad yw’r un peth â dyddiad dod i ben y ffyrlo – gall ffyrlo fod yn barhaus ar ddiwedd y cyfnod hawlio.

Beth yw dyddiad dechrau’r hawliad hwn?
Er enghraifft, 1 3 2020