Skip to main content

Gwasanaeth newydd yw hwn – bydd eich adborth yn ein helpu i’w wella.

Yn ôl

Telerau ac amodau

  1. Dim ond at ddibenion Ardrethu Annomestig (NDR) y ceir cyhoeddi’r wybodaeth hon a’i defnyddio, ac mae’r dibenion hyn wedi’u nodi yn 2.
  2. Y defnydd at ddibenion ardrethi annomestig (NDR) yw:
    • galluogi unrhyw un i arfer ei hawl i weld asesiadau ardrethu yn y rhestrau trethu a luniwyd
    • caniatáu i ddefnyddiwr sy’n berson â buddiant neu’n awdurdod perthnasol:
    • adolygu’r prisiad (lle y’i dangosir) o asesiadau y mae ganddynt fuddiant ohonynt
    • bwrw golwg dros brisiad asesiadau eraill y maent yn eu hystyried yn gymaradwy wrth adolygu’r asesiad o eiddo y mae ganddynt fuddiant ohonynt
  3. Ar gyfer y termau hyn, mae’r diffiniad o ddefnyddiwr yn cynnwys:
    • person â buddiant, a ddiffinnir fel meddiannydd yr eiddo, neu unrhyw bersonau eraill ag ystad gyfreithiol neu fuddiant ecwitïol sy’n rhoi hawl iddynt feddiannu’r eiddo neu unrhyw ran ohono; ac unrhyw berson sydd â chysylltiad cymwys ag ef; a Chomisiynwyr Ystâd y Goron
    • awdurdod perthnasol, a ddiffinnir fel yr awdurdod lleol y mae’r hereditament wedi’i leoli yn ei ardal
    • cynrychiolydd awdurdodedig person â buddiant neu awdurdod perthnasol at y dibenion datganedig
    • person neu gwmni sy’n darparu gwasanaethau neu wybodaeth ar gyfer person â buddiant neu awdurdod perthnasol neu eu cynrychiolydd awdurdodedig at y dibenion datganedig
  4. Nid yw’r telerau ac amodau hyn yn cwmpasu’r defnydd o’r canlynol:
    • yr wybodaeth, ac eithrio at y dibenion a nodir uchod
    • data personol yn yr wybodaeth
    • gwybodaeth nad yw wedi’i chyhoeddi na’i datgelu o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth (gan gynnwys y Deddfau Rhyddid Gwybodaeth) drwy neu gyda chydsyniad y Darparwr Gwybodaeth
    • logos adrannau neu sefydliadau sector cyhoeddus, arfbeisiau a’r Arfau Brenhinol, ac eithrio lle maent yn ffurfio rhan annatod o ddogfen neu set ddata
    • hawliau trydydd parti nad yw’r Darparwr Gwybodaeth wedi’i awdurdodi i’w trwyddedu
    • gwybodaeth sy’n destun hawliau eiddo deallusol eraill
  5. Dylai pob defnyddiwr sicrhau:
    • nad ydynt yn defnyddio’r wybodaeth mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw statws swyddogol neu sy’n awgrymu bod y Darparwr Gwybodaeth yn eu cymeradwyo nhw neu eu defnydd o’r Wybodaeth
    • nad ydynt yn defnyddio’r wybodaeth mewn ffordd sy’n debygol o gamarwain eraill neu gam-gyfleu’r wybodaeth neu ei ffynhonnell
    • nad yw eu defnydd o’r wybodaeth yn torri Deddf Diogelu Data 1998 neu Reoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y GE) 2003
  6. Mae datgelu ymhellach i drydydd parti wedi’i wahardd, ac eithrio pan fo defnydd y trydydd parti o’r wybodaeth ar gyfer y defnyddiau a nodir uchod.
  7. Bydd y defnyddiwr yn dileu’r wybodaeth hon pan na fydd ganddo angen busnes mwyach sy’n gysylltiedig â’r dibenion datganedig i gadw’r wybodaeth.
  8. Mae’r wybodaeth wedi’i thrwyddedu ‘fel y mae’ ac mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn eithrio pob sylw, gwarant, ymrwymiadau a rhwymedigaeth mewn perthynas â’r wybodaeth i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith. Mae’r wybodaeth yn cael ei chadw gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn cysylltiad â’i swyddogaethau ei hun – dylai’r defnyddiwr sicrhau ei hun o’i hansawdd a’i gallu i fodloni ei ddefnydd o’r wybodaeth.
  9. Nid yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n atebol am unrhyw wallau neu hepgoriadau yn yr wybodaeth, ac ni fydd yn atebol am unrhyw golled, anaf neu ddifrod o unrhyw fath a geir yn sgil defnyddio’r wybodaeth.
  10. Caiff y cytundeb hwn ei lywodraethu gan gyfraith Lloegr ym mhob manylyn, gan gynnwys ffurfiant a dehongliad, a bernir ei fod wedi ei wneud yn Lloegr a bod y partïon yn cytuno i ymostwng i awdurdodaeth gyfyngedig llysoedd Lloegr.
  11. Bydd y defnyddiwr yn gyfrifol am ddarparu’r feddalwedd, llinellau telathrebu ac offer angenrheidiol i alluogi’r defnyddiwr i adalw’r wybodaeth.
  12. Nid yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n gwarantu y caiff yr wybodaeth ei chyflenwi, ond bydd yn gwneud pob ymdrech resymol i gadw’r gwasanaeth yn weithredol. Fodd bynnag, bydd cyflenwad Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n cael ei atal os a chyn belled â bod unrhyw amgylchiadau’n codi sy’n ei hatal rhag darparu’r gwasanaeth.
  13. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n cadw’r hawl i newid cynnwys neu ddull cyflwyno’r gwasanaeth wrth ei hewyllys, ac i ddileu unrhyw ffeil neu unrhyw ran o’i chynnwys o fewn y gwasanaeth naill ai dros dro neu’n barhaol.
  14. Mae’r gronfa ddata a’r data wedi’u diogelu gan Hawlfraint y Goron a hawliau Cronfa Ddata’r Goron.
  15. Mae’r defnyddiwr yn cydnabod bod ei ganiatâd i ddefnyddio’r gweithiau hynny sydd dan hawlfraint wedi’i gyfyngu i’r hawliau a roddir yn benodol gan y telerau ac amodau hyn.
Rhowch wybod i ni am broblem gyda’r dudalen hon.

Os ydych yn cael trafferth defnyddio’r gwasanaeth hwn, gallwch gysylltu â ni am gymorth.

Cyfeiriad e-bost: ccaservice@voa.gov.uk